Ein hysgol Sul: ‘Newid ein byd er gwell’
Roedd Iesu yn gweithio i greu byd gwell i bawb. Roedd yn herio’r drefn ac yn gofyn i bobl garu ei gilydd. Dangosodd i ni sut oedd ymddwyn drwy esiampl ei fywyd ei hun. Sut ydych chi’n ceisio newid y byd er gwell? Beth mae eich ysgol Sul chi’n ei wneud i wella’n byd, i siarad dros heddwch, ac i wneud gwahaniaeth?

Eleni gwahoddir ysgolion Sul i ddefnyddio’u dychymyg a’u doniau creadigol i greu podlediad / hysbyseb / fideo / unrhyw beth cyfrwng digidol byr (hyd at 5 munud o hyd), neu waith celf ar y thema.
Anfoner eich cynnyrch digidol at rhodri@annibynwyr.cymru a’r cynnyrch celf at Margaret yn Nhŷ John Penri, 5 Axis Court, Glanyrafon, Abertawe SA7 0AJ erbyn dydd Iau, 4 Mehefin 2026.
Caiff cyflwyniad o’r holl gyfraniadau ei ddangos yn ystod ein Cyfarfodydd Blynyddol yn Abertawe ym mis Mehefin.
Os am fwy o fanylion, cysylltwch â Thŷ John Penri: 01792 795888 neu undeb@annibynwyr.cymru