Erthygl gan Caspar Rolant, Capel y Priordy, Caerfyrddin, a fu'n rhan o gynhadledd CWM yn ddiweddar ynghyd a Gwydion Outram o Salem, Caernarfon.

Ym mis Rhagfyr, ces gyfle i gynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn cynhadledd o’r enw ‘Youth and Racism’ a gynhaliwyd gan y Council for World Mission yn Llundain.

Roedd y profiad yn un diddorol a dweud y lleiaf, yn enwedig o ystyried gwreiddiau’r Council for World Mission, hynny yw bod CWM wedi tyfu allan o’r London Missionary Society yn y 19eg ganrif. Mae’r hanes o gysylltiad Cristnogaeth â’r traddodiad cryf o genhadu wedi creu deuoliaeth anghysurus yn ein dealltwriaeth ni o Gristnogaeth gan fod y cenhadon o’r 18fed, 19eg a’r 20fed ganrif wedi chwarae rhan bwysig mewn cefnogi a sefydlu’r fframweithiau a arweiniodd at gaethwasiaeth a gwladychiaeth. 

Cwestiynau

Roedd gen i gwestiynau rhif y gwlith cyn cyrraedd y gynhadledd felly. Roedd fy nghwestiynau i’n troi o gwmpas y cyd-destun Prydeinig, roeddwn i’n meddwl am Genhedlaeth y Windrush a’r llong gyntaf i lanio ym Mhrydain, sef yr Empire Windrush, yn 1948. Roeddwn hefyd yn meddwl am bethau mwy heriol fel, ‘A oes yna ddadansoddiadau newydd o’r eglwys a Christnogaeth sydd wedi’u gwreiddio yn niwylliannau y bobl sydd yn blant i’r rhai a ddaeth i Brydain o genhedlaeth y Windrush?’ Ac, ‘A oes yna angen i dynnu i ffwrdd o’r eglwys sy’n dal i gynrychioli hanes o ormes?’

Cyd-destun cymdeithasol?

Mi fuaswn i wedi hoffi petai’r gynhadledd wedi edrych ar y cyd-destun cymdeithasol a ches fy siomi i raddau gan y ffordd y deliodd y gynhadledd â’r pynciau deuol o hiliaeth a chrefydd, gan iddynt ganolbwyntio’n fwy ar ffydd unigol a sut i fynegi agwedd gwrth-hiliol yn bersonol yn hytrach nag ymladd hiliaeth a rhagfarn tu fewn a thu allan i’w heglwysi, gyda’r syniad o greu symudiad cenedlaethol ehangach. Teimlais y byddai wedi bod yn dda fframio’r pynciau o hiliaeth a ffydd o fewn y cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol ac y gallai’r sgwrs fod wedi bod yn fwy ystyrlon ac yn cyffwrdd â bywyd y tu allan i ddrysau’n heglwysi.

Deall hiliaeth

Ond roedd pethau positif am y gynhadledd hefyd. Roeddem ni wedi gorfod delio gyda phynciau anghyfforddus, yn benodol i’r ddau ohonom oedd yn cynrychioli’r Undeb, gan mai ni’n dau oedd yr unig ddau berson gwyn o dras Brydeinig yno. Fe agorodd y gynhadledd ddrysau o ddealltwriaeth i ni’n dau ynghylch deall hiliaeth yn well yn ein heglwysi, ac i adnabod bod ein profiad ni o fod yn Gristnogion Cymraeg anghydffurfiol yn un eithaf unffurf a homogenaidd, gyda’r rhan fwyaf o’r bobl yn ein heglwysi ni’n Gymry Cymraeg o’r gymuned leol. Roedd deall bod y Gristnogaeth sydd yn cael ei hymarfer mewn eglwysi ‘anghydffurfiol’ eraill, yn non-conformist go iawn, gyda phrofiadau hynod wahanol i’w gilydd hyd yn oed mewn ardaloedd cyfagos ac o fewn yr un eglwys, yn agoriad llygad.

Sgwrs ehangach

Yn wir roedd yna sgwrs fwy ac ehangach i’w chael, ac fe wnaeth Dr Sindiso Jele, o Dde Affrica, ein harwain drwy gyflwyniad ar effaith hiliaeth ar gyfandir Affrica, gan sôn am sgwrs grefyddol y dyn gwyn a sut yr effeithiodd hynny ar y gormes, bod dadansoddiadau o’r Beibl wedi cyfrannu tuag at gefnogi’r safbwynt fod pobl Ddu yn gynhenid israddol ac angen eu harwain at ryw fath o oleuni.

Datganiad Boksburg

Wrth i’r gynhadledd fynd yn ei blaen, deallais fod modd cyd-destunoli’r Cristnogol a’r crefyddol o fewn i fframwaith cymdeithasol, ymarferol hefyd. Cawsom gyfle i weld y Boksburg Declaration a ddrafftiwyd mewn cynhadledd yn Ne Affrica yn 2023. Dogfen yw hon gyda’r bwriad o gadarnhau ymrwymiad bobl ifanc Affrica i ymladd hiliaeth yn eu cymunedau lleol gyda’r gobaith o weld newid dros amser. Dyma enghraifft o’r eglwys yn helpu mewn cymunedau y tu hwnt i’w heglwysi, ac yn edrych i newid strwythurau niweidiol cymdeithasol yn hytrach: ‘We the African youth pledge to go beyond the four walls of the church and build the society as a whole because racism is a community story and not just a church story.’

Profiad gwerthfawr

Bu mynd i’r gynhadledd yn brofiad positif, ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i greu profiad cyfoes a chyfeillgar. Ces gyfle i ymwneud â phobl o bob math o gefndir, a hefyd gael y cyfle i siarad am ein profiadau ni fel Cymry a’u gosod ochr yn ochr â straeon eraill, er mwyn dod i ddeall ein profiad ni yn well o fewn cyd-destun rhyngwladol. Roedd hi’n gynhadledd gyda ffocws ar gyfrannu a chroesawu beth bynnag oedd eich barn, ac roedd yn fforwm hefyd i feddwl ac ystyried barn eraill.

Mi faswn i’n argymell y profiad hwn fel un gwerthfawr i unrhyw un sydd am drafod pynciau rhyngwladol sydd efallai y tu allan i’r sgyrsiau dyddiol yr ydym ni’n dueddol o’u cael yng Nghymru, ac eisiau meddwl am bethau’n ddwysach gyda chefnogaeth a hefyd gyda mewnbwn gan bobol eraill. Wrth feddwl y bydd cynhadledd arall yn digwydd yn Durban flwyddyn nesaf, ystyriwch fynd, efallai mai dyma fydd eich cyfle mawr chi.

Caspar Rolant

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.