Cafodd cyfraniad aruthrol y Parchg Beti-Wyn James i fywyd Cristnogol a’r gymuned ehangach yn ardal Caerfyrddin ac yn genedlaethol ei gydnabod trwy iddi gael ei hurddo’n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Llongyfarchiadau mawr iddi am gydnabyddiaeth hollol haeddiannol.

Wrth ei chyflwyno i’r gynulleidfa, fe dalwyd teyrnged iddi gan Dr Lowri Lloyd, ar ran y brifysgol, yn enwedig am ei gwaith amhrisiadwy yn cynnal pobl yn ystod cyfnod clo Covid. ‘A ninnau yn ein swigod unig, a drysau ein tai ar gau a’n capeli dan glo, fe roddodd Beti-Wyn allwedd a mynediad amhrisiadwy i addolwyr Cymru a thu hwnt trwy ddarlledu oedfaon Cymraeg digidol dros y we. Yn sydyn, er yn bell, trwy’r tonfeddi, daethom oll yn gymaint nes.’

Ymgorffori’r Gwerthoedd Cristnogol

Ychwanegodd Dr Lloyd bod yr oedfaon yn ystod y cyfnod clo wedi cwrdd ag angen mawr trwy roi ffydd a chwmni gwerthfawr i dros 2,000 o ddilynwyr o bob rhan o'r byd, a bod yr oedfaon hynny’n parhau o hyd bob dydd Sul gyda channoedd yn eu dilyn.

‘Er ein bod yn gwbl rydd erbyn hyn o hualau’r clo mawr, mae Beti-Wyn yn gwybod mor allweddol y mae’r gwasanaethau, ac yn wir, y gwerthoedd Cristnogol y mae hi’n eu hymgorffori, i eraill. Nid yw gwaith gweinidog yn hawdd a gallaf dystio fod Beti-Wyn wedi cael llawer o wasanaethau anodd a thrist i’w gweinyddu dros y blynyddoedd,’ meddai Dr Lowri Lloyd, ac wrth droi at Beti-Wyn dywedodd: ‘I gynifer o deuluoedd, mae eich presenoldeb a'ch gofal wedi bod yn amhrisiadwy. Gallaf dystio’n bersonol i ti gynnal teuluoedd sydd wedi profi colledion annhymig o gynnar gan wneud hynny gydag urddas a dewrder. Ti, iddyn nhw, fu’r allwedd i’r goleuni mewn cyfnod o dywyllwch a chaethiwed.’

Person prysur!

Yn weinidog ers 30 mlynedd, daeth y Parchg Beti-Wyn James i Gaerfyrddin yn 2002 i wasanaethu yn y Priordy, Cana a Bancyfelin. Mae hi hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin, gwirfoddolwr gweithgar gyda’r banc bwyd lleol, cyflwyno’r oedfa Sul wythnosol ar Radio Glangwili, cyn-lywydd Undeb yr Annibynwyr a chaplan maer tref Caerfyrddin am y degfed tro eleni. Yn awdures ac yn fardd sydd wedi ennill sawl cadair, mae’n aelod o Orsedd y Beirdd, ac yn dechrau yn ei rôl newydd fel Arwyddfardd eleni. Ond yn fwy na dim byd arall, ‘Mam’ yw Beti-Wyn i Elin Wyn a Sara Llwyd.

Gwrando ar y galon

Wrth dderbyn yr anrhydedd ac annerch y gynulleidfa o raddedigion newydd, dywedodd Beti-Wyn: ‘Pe bydden i wedi gwrando ar bobol yn lle gwrando ar fy nghalon fy hunan mae’n bosib na fyddem yn weinidog heddiw. Rwy’n credu bod yna wers yma i ni gyd, yn enwedig i chi sy’n graddio heddiw ac yn cychwyn ar gyfnod cyffrous iawn yn eich bywydau. Rydych wedi profi yn barod bod y gallu gyda chi ond cofiwch, mae angen angerdd fan hyn hefyd. Dilynwch ddymuniad eich calon a’ch breuddwyd – er efallai y bydd y freuddwyd honno yn wahanol i’r hyn mae eraill yn disgwyl oddi wrthych.’

Cyflwynwyd cywydd arbennig i Beti-Wyn gan Dr Lowri Lloyd: 

 

Pan fu pell gymaint pellach

A’n byd yn llawn swigod bach,

Ymroi i agor cloeon,

Rhyddhau hualau wnaeth hon.

 

Rho’dd olau i’r dyddiau du,

hi, ein hallwedd, a’i gallu

trwy dirwedd y tonfeddi

a’n cadwodd, a’n hunodd ni

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.