Mae pawb yn gyfarwydd â’r hanes am Joseff, Mair a’r plentyn Iesu yn gorfod gadael eu cartref ym Methlehem a ffoi i’r Aifft am fod Herod am ladd yr un oedd ‘newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon.’ (Math. 2:13–23) Oni bai iddynt ffoi i wlad arall, mae’n debyg y byddai Iesu ymhlith y bechgyn bach a laddwyd ym Methlehem, a dyna fyddai diwedd y stori!

Mae ysbryd Herod ar waith o hyd mewn sawl gwlad heddiw, a phobl yn dal i orfod ffoi o’u cartrefi i osgoi erledigaeth greulon. Mae’n ffaith frawychus bod 0.8% o bobl y byd yn ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches, yn ôl Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR). Mae cynnydd o 42,500 yn y niferoedd bob dydd, sy’n digwydd bod yr un faint â’r nifer sy’n mentro’u bywydau trwy groesi’r Sianel i Brydain mewn cychod bychain bob blwyddyn.

Datganiad ymfflamychol

Maen nhw ymhlith yr 89,000 wnaeth gais am loches ym Mhrydain y llynedd. I’w roi mewn cyd-destun rhyngwladol, mae 15 o wledydd eraill Ewrop wedi derbyn mwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches na Phrydain. Mae hynny’n gwneud nonsens o ddatganiad yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, a ddywedodd: ‘Mae 100 miliwn o bobl ledled y byd a allai gael hawl i loches o dan ein cyfreithiau presennol. Gadewch i ni fod yn glir. Maen nhw’n dod yma’ Cafodd Ms Braverman ei beirniadu’n hallt am wneud y fath ddatganiad ymfflamychol, a allai gorddi casineb yn erbyn ffoaduriaid.

Torri’r Ddeddf Hawliau Dynol

Mae Llywodraeth San Steffan am newid y gyfraith i rwystro’r cychod bach rhag glanio yn Lloegr. Byddai’r bobl sydd yn y cychod hynny’n cael eu hanfon yn ôl i’w gwledydd eu hunain neu i Rwanda. Fe gyfaddefodd Ms Braverman y gallai’r llywodraeth dorri’r Ddeddf Hawliau Dynol drwy fethu â chydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ond ni fydd hynny’n eu rhwystro.

 

erthygl o bapur newydd Y Tyst, Mawrth 16 2023

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.