Cynhaliwyd cynhadledd yn ddiweddar gan Gymdeithas y Beibl yn Southwark Llundain yn dwyn y teitl ‘Quiet Revival.’

Cynullwyd arweinyddion eglwysig o Gymru a Lloegr o ganlyniad i ddatblygiad diddorol a welwyd mewn nifer o eglwysi yn ystod y blynyddoedd diwethaf – datblygiad annisgwyl ac arwyddocaol. Ers Covid roedd nifer o eglwysi wedi sylwi fod pobl newydd – nifer ohonynt yn ifanc – yn ymddangos yn ddigymell yn eu hoedfaon. Roedd hyn yn digwydd i’r fath raddau fel bod Cymdeithas y Beibl wedi comisiynu arolwg gan YouGov ymhlith canran o’r boblogaeth er mwyn cywain gwybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd.

Yn 2018 gwnaed arolwg gyda 19,101 o oedolion yng Nghymru a Lloegr ac yna arolwg pellach yn 2024 gyda 13,146 o oedolion. Gwendid amlwg i ni yng Nghymru yw na wahanwyd yr wybodaeth am Gymru oddi wrth ystadegau Lloegr. O ganlyniad collwyd cyfle. Yr un hen wireb oesol eto – ‘For Wales see England.’ Er hynny mae’r casgliadau yn fwy na chalonogol.

Dyma grynodeb o brif gasgliadau’r arolwg.

  1. Yr Eglwys yn tyfu. Mae’r arfer o fynych eglwys ar gynnydd yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn newid mawr o’i gymharu â’r dirywiad fu yn y gorffennol. Mae’r cynnydd mwyaf ymhlith oedolion ifanc yn enwedig dynion. Yn 2018 dim ond 4% o bobl rhwng 18 a 24 fynychai eglwys unwaith y mis. Cynyddodd hynny heddiw i 16% gyda chanran dynion ifanc yn tyrru o 4% i 21% a menywod ifanc o 3% i 12%. Hwn yw’r ail ystod oedran sydd fwyaf tebygol o fynychu eglwys yn gyson erbyn hyn. Bellach y mae 12% o’r boblogaeth yn mynd i eglwys o’i gymharu ag 8% yn 2018. Mae hyn wedi codi o 3.7 miliwn yn 2018 i 5.8 miliwn yn 2024 – cynnydd o 56%.
  2. Yr Eglwys yn newid. Mae’r eglwys yng Nghymru a Lloegr yn dod yn fwy aml-hil. Mae 19% o fynychwyr o leiafrifoedd ethnig, ond ymhlith y rhai 18-54 oed cyfyd y canran i 32%.
  3. Ffydd fyw. Ochr yn ochr â’r newid hwn yn y ddemograffeg, y mae tystiolaeth fod yr eglwysi yn fwy gweithredol a bywiog. Mae hyder pobl yn y Beibl wedi cynyddu ers 2018 a 67% o addolwyr yn darllen y Beibl y tu allan i’r oedfaon.
  4. Mynychu yn cyfrif. Ar yr un pryd y mae’r rhai hynny nad ydynt yn mynd i oedfaon yn llai tebygol o alw eu hunain yn Gristnogion. Yn fwyfwy y mae Cristnogaeth, yn hytrach na bod yn label diwylliannol, yn golygu fod pobl yn ymwneud ac yn mynychu eglwys.
  5. Y genhedlaeth ysbrydol. Roedd y bobl ifanc yn y sampl nid yn unig yn mynychu eglwys, ond hefyd yn agored iawn i ysbrydolrwydd. Roedd y grŵp 18-24 oed yn fwy tebygol nac eraill i weddïo yn gyson; 50% yn arfer disgyblaeth ysbrydol. Hwy hefyd yw’r grŵp mwyaf eiddgar i ddysgu mwy am y Beibl, gyda 37% o bobl 18-24 yn dweud eu bod yn awyddus i ddysgu mwy.
  6. Mynychu a hunan-les. Ymddengys bod mynychu eglwys yn cynorthwyo oedolion ifanc i ddelio gydag anawsterau iechyd meddwl, unigrwydd a diffyg ystyr. Mae addolwyr yn fwy tebygol na phobl sydd ddim yn mynychu i ddweud eu bod yn fwy bodlon ac yn fwy mewn cysylltiad â’r gymuned.
  7. Cynulleidfaoedd gweithredol. Ond nid rhywbeth unigolyddol yw hyn gan fod addolwyr yn llawer mwy tebygol i gymryd rhan weithredol yn y gymuned leol. Maent yn barotach i wirfoddoli, cyfrannu i fanciau bwyd a rhoi at elusennau.
  8. Disgyblaeth. Y mae yn amlwg angen mwy o ddisgyblaeth wrth ymwneud â’r Beibl. Dywed 33% o addolwyr eu bod yn ansicr ynglŷn ag astudio a deall y Beibl.
  9. Agored i’r Efengyl. Mae’r twf a welwyd mewn mynychu addoliad yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod mwy o bobl yn agored i’r ffydd Gristnogol a’r Beibl. Dywedodd 31% o bobl nad ydynt yn mynychu eglwys, y byddent yn gwneud hynny pe baent yn cael eu gwahodd gan ffrind neu aelod o’r teulu. Cyfyd hynny i 34% ymhlith oedolion rhwng 18 a 24 oed.
  10. Camau i'w cymryd. Mae gan Gymdeithas y Beibl bedwar argymhelliad mewn ymateb i'r data hyn. Yn gyntaf, maent yn annog pobl sy’n llunio polisïau a’r rhai hynny sy’n ddylanwadol i roi mwy o sylw i bresenoldeb Cristnogion sy'n mynychu eglwysi yn y gymdeithas. Yn ail, dylai'r Eglwys weithio ar feithrin disgyblaeth Feiblaidd er mwyn meithrin hyder yn y Beibl. Trwy hynny gellir manteisio ar yr ysbryd mwy agored sydd o fewn i’r gymdeithas. Yn drydydd, dylai'r Eglwys annog sgyrsiau rhwng gwahanol genedlaethau o fewn i’w cynulleidfaoedd fel bo aelodau yn dysgu o brofiad ei gilydd. Yn olaf, dylai sylweddoli pwysigrwydd perthynas bersonol pobl.

Byddai’n ddiddorol cael gwybod gennych os ydych wedi sylwi ar y duedd hon o fewn eich eglwysi chi. Anfonwch bwt o ymateb at tyst@annibynwyr.cymru.

Gellir lawrlwytho holl ystadegau a chanlyniadau'r arolwg yn llawn trwy glicio fan hyn.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.