Bu Dydd Gŵyl Dewi eleni yn ddiwrnod llawn a llawen yng Nghapel y Nant, Clydach pan agorwyd drysau’r capel a’r Neuadd i’r gymuned. Bwriad y dydd oedd estyn croeso a dangos gwaith yr eglwys, gan wahodd trigolion lleol i ddod i mewn a mwynhau paned a sgwrs mewn awyrgylch hamddenol a chynnes.

Roedd grwpiau gwahanol wedi paratoi arddangosfeydd hardd: dangoswyd ymdrechion ein grŵp Eglwys a Chymuned i gefnogi elusennau lleol a chenedlaethol, gweithgarwch y Chwaeroliaeth ac arddangosfa drawiadol y dosbarth gwnïo a’u cynnyrch – yn faneri, clustogau a bagiau wedi’u pwytho’n gain a lliwgar.

Beiblau a mwy

Un o’r arddangosfeydd canolog oedd casgliad o lyfrau defosiynol, a’r ystod yn eang – o lungopi o gyfieithiad gwreiddiol Salesbury o’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’r Bible in Cockney difyr a doniol. Ymhlith y cyfrolau niferus eraill roedd argraffiad cyntaf Beibl Peter Williams, Mynegair i’r Beibl Cymraeg Newydd, beibl.net i Bobl Ifanc a’r Women’s Bible, sef y Beibl o safbwynt y ferch. Roedd arddangosfa gynhwysfawr gan yr Eglwys Fethodistaidd, sy’n rhannu’r neuadd gyda’r Annibynwyr, a chafwyd presenoldeb gan asiantaethau sy’n gysylltiedig â Chapel y Nant: Merched y Wawr, eglwys eco a mudiad amgylcheddol A Rocha sy’n genhadaeth o fudiadau sy’n gwireddu galwad Duw arnom i ofalu am y cread mewn modd gweithredol.

Tŷ Croeso

Asiantaeth leol amlwg yw Tŷ Croeso, sy’n rhoi cartref i fanc bwyd y Trussell Trust yn ogystal â chynnig ystod o wasanaethau cynhaliol i unigolion a theuluoedd bregus yr ardal. Mae Tŷ Croeso wedi bodoli yng Nghlydach ers deuddeng mlynedd bellach ac mae Capel y Nant yn falch o fod wedi cefnogi’r gwaith ar hyd y blynyddoedd. Rhan bwysig o’r gweithgarwch yn neuadd gerllaw – ar wahân i’r paneidiau a’r pice ar y maen – oedd siop ddillad elusen O Law i Law, sy’n perthyn i Dŷ Croeso, a lle’r oedd modd ‘swisho’ neu gyfnewid dillad yn ogystal â phrynu. Roedd hefyd siop Masnach Deg yn cynnig ystod o gynnyrch.

Dangoswyd lluniau dyfrlliw gan ein diweddar aelod Mr Walford Davies a chafwyd trefniadau cennin Pedr i’n hatgoffa o’n Nawddsant.

Dyfalbarhau

Yn ystod y chwe awr o groeso agored, galwodd dros 50 o bobl i mewn: rhai’n aelodau yng Nghapel y Nant neu’r eglwys Fethodistaidd, eraill yn aelodau mewn capeli ac eglwysi eraill, ond yn bwysicaf oll, cyfeillion nad oeddent yn aelodau mewn unrhyw eglwys. Ar hyd y dydd cynhaliwyd tri sesiwn o ddefosiwn pum munud wedi’u harwain yn effeithiol gan Fiona, Robat a Dewi a oedd yn goron ar ddiwrnod gwerthfawr o agor drysau a thorri’r gwahanfuriau. Ein her nawr yw parhau i fod yn weithredol yn ein croeso agored yn enw’r Arglwydd Iesu.

Eurig Davies

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.