Daeth tua 200 o bobl ynghyd ar gyfer y digwyddiad, a bu’n rhaid chwilio ar frys am gadeiriau ychwanegol – sefyllfa anghyffredin iawn mewn achlysur Cristnogol!

Y siaradwr gwadd oedd Huw Edwards, oedd wedi dianc yn ôl i Gymru am benwythnos heulog o haf ar ôl bod yn darlledu’n hir am ymddiswyddiad Boris Johnson dridiau ynghynt.

 

Araith rymus

Mewn araith rymus fe wnaeth Huw ganmol y cyfundeb am gynnal gweithgarwch cyfoes a gwahanol. ‘Gallwn fod yn falch am yr hyn â fu, ond peidio â byw yn y gorffennol,’ meddai. ‘Mae’r tymhorau’n gallu newid pethau, ac mae’n rhaid i ni fel Cristnogion ymateb i’r newidiadau hynny; mae’n rhaid i ni fod yn ddigon hyblyg, rhaid i ni fod yn ddigon ffit ar ein traed i symud yn gyflym, neu mae ar ben arnom ni. Mae’r ffaith eich bo chi’n medru cynnal cyfarfod fel hyn heddi, ar y ffurf yma, yn destun dathlu, achos ry’ch chi’n dangos eich bo chi’n gallu bod yn hyblyg.’

Aeth Huw ymlaen i annog a herio ei gyd-Gristnogion Anghydffurfiol i fod yn fwy gweithredol mewn cymdeithas, ac i godi llais yn uwch ar faterion pwysig y dydd. ‘Mae galw ar yr eglwys i fod yn fwy o rym mewn cymdeithas heddiw,’ meddai, gan gyfeirio at draddodiad radical yr Anghydffurfwyr.

Cafodd aelodau o’r gynulleidfa gyfle prin wedyn i holi’r holwr mawr! Cadeiriwyd gan y Parchg Tom Evans, cadeirydd y cyfundeb. Mawr yw ein diolch i Huw am iddo ganfod lle yn ei amserlen brysur i ddod atom ni. 

 

Rhan y plant a’r bobl ifanc

Aelodau ysgolion Sul Peniel a Siloam gymrodd at y rhannau rhagarweiniol, o dan arweiniad Carys Davies a Meleri Cray. Darllenwyd gan Beca ac Awel, ac fe gawsom ein harwain mewn gweddi gan Gruffydd (ar y chwith). Cyfeiliwyd yr emynau yn fywiog gan fand y Priordy. Aeth y plant wedyn i'r Theatr Fach i gymryd rhan mewn gweithgarwch o dan ofal Carys Davies, Ann Evans a Catrin Hampton.

Cafodd pawb gyfle i fwynhau paned a chacen a chlonc yn y caffi ar ddiwedd achlysur cofiadwy a bendithiol. Mwy o luniau a fideo fer o Huw ar: cyfundeb.com

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.