Dyma emyn newydd gan Sian Meinir

 

‘Gofal Duw’

(seiliedig ar Salm 139)

 

Ti sy’n chwilio a’m hadnabod,
Ti a ŵyr fy meddwl i,
Ni ddaw gair oddi ar fy nhafod
Heb ei ddirnad gennyt ti.
Rho im ddeall, rho’r amgyffred
Yn fy nghalon, yn fy nghân,
Mai dy law osodaist drosof
O’r tu ôl ac o’r tu bla’n.
 
I ble’r af oddi wrth dy ysbryd
Ac ymhle caf ffoi o’th ŵydd?
Os ar adain aur y wawrddydd
Af, dros donnau’r môr yn rhwydd,
Neu i Annwn draw i guddio,
Yno byddi’n dal fy llaw;
Ni bydd nos yn cau amdanaf,
Mae d’oleuni’n ddi-ben-draw. 
 
Ti a greodd f’ymysgaroedd,
Ti a blethodd bopeth cudd,
Yn dy lyfr y cofnodwyd
Hyd fy mywyd a bob dydd;
Er dy luos ddwfn feddyliau
Fel gronynnau’r tywod mân,
Para rwyt i gynnig imi
Dalen wen a chalon lân.
 
Gwae im lynu wrth d’elynion,
Tynn fi’n rhydd o’u gafael cas,
Gwna fi’n ddewr i fod yn gadarn
Yn dy gariad, drwy dy ras.
Chwilia fi, fel caf f’adnabod,
Profa fi, a gweld fy loes;
Dangos im, os wyf ar groesffordd,
Sut mae dilyn grym y Groes.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.