Achlysur llawen iawn ym Methania, Tymbl Uchaf, oedd sefydlu’r Parchg Heini Jones yn weinidog rhan-amser, mewn gwasanaeth bendithiol ar ddydd Sul, 16 Hydref.

Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan y diaconiaid a’r sefydlu gan y Parchg Ken Williams, cadeirydd yr eglwys. Mrs Meryl James yr ysgrifenyddes a gyflwynodd hanes yr alwad cyn clywed tystiolaeth y gweinidog. Cydnabuwyd cefnogaeth yr aelodau a ffrindiau drwy iddynt sefyll ac wedi gwrando ar Weddi’r Sefydlu. Estynnwyd deheulaw cymdeithas i’r Parchg Heini Jones a chadarnhau iddo dderbyn yr alwad i fod yn weinidog yn ein plith i:

  • bregethu a dysgu Gair Duw
  • weinyddu ordinhadau Bedydd a Swper yr Arglwydd
  • arwain gweddïau ac addoliad yr eglwys
  • fugeilio’r praidd, a’u cadarnhau yn y ffydd
  • adeiladu’r eglwys mewn cariad a chadw undod yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.

Estynnwyd croeso’r Cwrdd Chwarter gan y cadeirydd Mr Gethin Thomas a oedd yn adnabod y teulu yn dda pan oeddynt yn byw yn yr ardal. Roedd Gethin wrth ei fodd fod yr eglwys wedi sicrhau parhad y weinidogaeth ym Methania ac yn edrych ymlaen at ei wahodd i ymuno yn y Cwrdd Chwarter nesaf a llawer o flynyddoedd o gydweithio yn y cwm a’r gymuned.

Y Parchg Beti-Wyn James Llywydd Undeb yr Annibynwyr a gyfarchodd y gweinidog a’r eglwys trwy gyfrwng fideo pwrpasol a ddangoswyd ar y sgriniau. Cyfeiriodd at y weinidogaeth gyfoethog a gafwyd ym Methania a bod parhad a’r dyfodol nawr yn llaw'r gweinidog a’r aelodau o dan arweiniad Duw drwy’r Ysbryd Glân. Dymunodd yn dda i Heini ac i’r eglwys.

Hanes yr alwad    

Penderfynwyd y byddem yn ceisio parhad y weinidogaeth yma ym Methania. Trafodwyd ac ystyriwyd y posibiliadau gan y diaconiaid a rhoddwyd caniatâd i Ken i gael gair â’r Parchg Heini Jones – a oedd ers tro yn byw gyda’i deulu ar ben uchaf y Tymbl. Cafwyd ymateb ffafriol gan y gweinidog ifanc a threfnwyd iddo ddod atom i bregethu. Daeth atom eto i bregethu a chafwyd cwrdd eglwys yn dilyn hynny, pan basiwyd i alw’r Parchg Heini Jones i ddod atom fel gweinidog rhan amser. Er calondid i ni fe gadarnhawyd hyn gan iddo dderbyn.

Ers hynny bu gyda ni ar sawl Sul, yn pregethu ddwywaith y mis gan weinyddu’r Cymun ar y Sul cyntaf yn ôl ein harfer. Mae wedi dechrau bugeilio’r aelodau sydd yn mynd drwy gyfnodau anodd ac fe ddaw yn gyfarwydd â ni i gyd mewn amser. Croesawn y gweinidog a’i deulu yn gynnes iawn gan ddymuno bendith Duw ar ei weinidogaeth yma ym Methania

Meryl James

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.