Cwrs newydd yn torri tir newydd wrth i gynulleidfaoedd ddod ynghŷd ar draws Cymru ac yn Llundain i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi
Wrth siarad â gwahanol bobl, awgrymwyd i mi dro ar ôl tro y byddai cyfres o sesiynau’n cyflwyno agweddau sylfaenol o fywyd eglwysig yn cael ei groesawu’n fawr. Ein gobaith yw bod y sesiynau hyn yn cynnig cyfle i ganfod sylfeini Beiblaidd i’r pwnc, yn ogystal â chymhwyso’r cyfan mewn ffyrdd perthnasol ac ymarferol i fywyd ein heglwysi heddiw.
Roedd creu’r hybiau, a defnyddio’r dull hwn o hyfforddi yn torri tir newydd i ni fel Undeb. Roeddwn yn sicr fod cynnig cyfle i drafod a rhannu, a hynny wyneb yn wyneb, yn allweddol i’r sesiynau hyn, ond ar yr un pryd, yn ymwybodol nad yw’r ‘man canolog sydd o fewn cyrraedd pawb’ yn bodoli mewn gwirionedd i allu cynnal y sesiynau yno. Yr ateb naturiol, wedi i ni ganfod posibiliadau technoleg a chyfarfodydd rhithiol yn ystod cyfnod y pandemig, oedd croesawu’r cyfle i fentro ac arbrofi gyda’r dechnoleg, a chreu’r hybiau.
Mae’r diddordeb a’r brwdfrydedd sydd wedi codi yn sgil cyhoeddi rhaglen y sesiynau hyn yn anhygoel, ac mae’r ffaith fod oddeutu 70 wedi mynychu’r sesiwn gyntaf yn profi hynny. Yn ogystal, mae sawl un wedi cysylltu i ddweud eu bod wedi bod yn ystyried dilyn hyfforddiant i gymhwyso fel pregethwyr cynorthwyol cydnabyddedig, ac yn gofyn a fyddai’r sesiynnau hyn yn sylfaen iddynt cyn cychwyn unrhyw hyfforddiant pellach.
Heb os, mae’r sesiynau hyn yn ymddangos fel eu bod wedi creu awydd a brwdfrydedd newydd, ac mae hynny’n beth gwych. Does gen i ddim amheuaeth fod Duw ar waith yn ein plith, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut fydd Duw yn parhau i weithio yn ein plith.
Carwyn Siddall