Ar nos Iau 1 Hydref cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn Jerusalem, Resolfen, i ddathlu 150 mlynedd ers adeiladu’r capel annibynnol enwog.

Roedd y gwasanaeth yn un o lawenydd ac o ddiolchgarwch, ac fe’i harweiniwyd gan Rhys Lock oherwydd ei gysylltiadau teuluol.

Adeiladwyd Capel Annibynnol Jerusalem yn 1875 ar dir ger gorsaf reilffordd Resolfen, i gynllun y pensaer adnabyddus Thomas Thomas o Landŵr (Landore). Merch i eglwys Maesyrhaf, Castell-nedd, ydoedd hi. Roedd y capel gwreiddiol yn dal 600 o bobl, a chyda’r galeri a’r pulpud cryf, roedd yn cynnig gofod addas i gynulleidfa gynyddol y pentref, a oedd ar y pryd yn newid o fod yn gymuned amaethyddol i fod yn gymuned ddiwydiannol, i gynnal eu cyfarfodydd.

Melin-y-Cwrt

Cyn hynny, roedd y fam eglwys ym Melin-y-Cwrt ar lethr y bryniau wedi mynd yn rhy fychan i dderbyn yr holl aelodau newydd. Felly adeiladwyd Jerusalem fel cyflawniad o weledigaeth y gymuned. Adeiladwyd y capel gan deulu’r ‘Herberts’ o Resolfen, ac fe osodwyd y garreg sylfaen ym Mehefin 1875 gan Dr Albert Barnes Rees, mab i’r diwinydd Dr Thomas Rees.

Gweinidogion

Gweinidog cyntaf yr eglwys oedd y Parchg D. Gains Morgan, a fu’n arwain yr achos gyda chryfder ac urddas hyd at ei farwolaeth yn 1898. Ef a’i olynydd, y Parchg R. E. Williams, fu’n gyfrifol am gyfnodau hir o dwf a ffyniant, gan sefydlu enw da i’r achos ymhlith yr Annibynwyr ar hyd a lled y De. Yn sgil cynnydd ymhlith yr aelodau, fe newidiwyd a helaethwyd yr adeilad yn 1902-1903 gan y pensaer Cook Rees o Gastell-nedd. Ychwanegwyd galeri newydd ar gyfer y côr, gosodwyd organ bib, a chynyddwyd y nifer o seddau i 900. Yno y datblygodd traddodiad cyfoethog o ganu emynau a chynnal cyngherddau ac oratorios, gyda chynulleidfaoedd mawr yn ymuno ar gyfer y Gymanfa Ganu flynyddol.

Canolfan

Drwy’r blynyddoedd bu’r capel yn ganolbwynt bywyd crefyddol a diwylliannol y gymuned. Yno y bu cydweithio ac ymroddiad ymhlith yr aelodau a’r swyddogion, gan gynnwys cerddorion ffyddlon fel Mr R. W. Morgan a wasanaethodd am dros chwe deg o flynyddoedd. Wrth edrych yn ôl dros y 150 mlynedd, gwelwn fendith aruthrol ar achos Jerusalem. Wrth edrych ymlaen, mae’r gynulleidfa’n awyddus i gadw’r ffydd a’r traddodiad, gan ddal ati i addoli a thystio yng nghanol y gymuned. Fel y dywedodd Rh. Lock yn ystod yr oedfa ddathlu:

‘Mae ein hanes yn dystiolaeth o ffyddlondeb Duw a ffyddlondeb ei bobl. Boed i Jerusalem barhau i sefyll fel goleuni a thystiolaeth i’r efengyl yn y dyffryn hwn am genedlaethau i ddod.’


W. Rhys Locke

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.