Bydd pawb yn ddall

Rhaid ein bod ni i gyd yn arswydo at yr ymladd dychrynllyd diweddaraf rhwng y Palestiniaid a’r Iddewon a gychwynnodd gydag ymosodiad sydyn a chreulon Hamas ar gymunedau a gŵyl gerddorol yn Israel, gan ladd cannoedd o bobol ddiniwed, yn eu plith henoed a phlant. Yna daeth dialedd dychrynllyd Israel yn bomio Gasa, ac yn amddifadu’r trigolion o ddŵr, trydan a nwy. (Llun: BBC)

Gwreiddiau dwfn

Mae gwreiddiau’r casineb yn mynd ’nôl yn ddwfn i hanes. Fe allen ni ddadlau ei fod yn dechrau gyda Josua’n goresgyn Canaan trwy rym y cleddyf er mwyn sefydlu’r ‘wlad o laeth a mêl’ i ddeuddeg llwyth Israel yn sgil yr Exodus. Yn sicr, mae’n ganlyniad y ddau wrthryfel mawr gan yr Iddewon yn erbyn y Rhufeiniaid yng nghyfnod yr Eglwys Fore, pan chwalwyd y Deml a dinistrio Jerwsalem yn 70OC, ac alltudio’r genedl i amryw wledydd eraill yn 135OC. 

Disodli cenedl

Dewch ymlaen bron i ddwy fil o flynyddoedd i 1948. Gyda chefnogaeth yr Arlywydd Truman, fe ffurfiwyd yr Israel newydd, ac fe lifodd cannoedd o filoedd o Iddewon alltud i’r wlad. Disodlwyd nifer fawr o Balestiniaid a fu’n byw yno ers oesoedd, a gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i ymsefydlu mewn un gornel fach o’r wlad – sef Llain Gasa. Erbyn heddiw mae 2.3 miliwn ohonynt yn byw o dan amgylchiadau hynod ddiflas mewn darn o dir sydd tua’r un maint a Phenrhyn Llŷn. Dyma’r ardal fwyaf dwys ei phoblogaeth yn y byd. Ers 2007 mae plaid Hamas wedi bod yn rheoli Gasa. Mae rhai gwledydd Arabaidd, fel Iran a Syria, yn cydnabod Hamas fel llywodraeth ddilys. Ond i wledydd eraill, gan gynnwys Prydain ac America, mudiad terfysgol ydynt. Ers pymtheg mlynedd bu gwrthdaro ysbeidiol rhwng Hamas ac Israel, ond dim i’w gymharu â’r lladdfa erchyll bresennol.

Yr unig ateb

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi dweud ers tro mai’r unig ateb parhaol i’r gwrthdaro gwaedlyd diddiwedd yw’r cynllun ‘dwy wladwriaeth,’ a fyddai’n golygu cydnabod gwladwriaeth Palestina a hawl Israel i fodoli. Dyna farn y Cenhedloedd Unedig hefyd, sydd wedi galw am hynny eto ers dechrau’r gwrthdaro presennol. Yn anffodus, nid yw Israel na Hamas yn barod i drafod ‘cael ffordd trwy’r drain at ochr hen elyn’ fel meddai Waldo. Mae’r clawdd yn drwchus, y drain yn hynod bigog, a’r gwreiddiau’n eithriadol o ddwfn. Ond rhyw ddydd, bydd yn rhaid mynd trwyddo. Gweddïwn y daw’n fuan.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.