Derbyn aelod newydd

Hyfrydwch oedd derbyn Siân Hinton yn aelod yn ein hoedfa gymun fis Hydref. Croeso adref i deulu Hope-Siloh Siân, a phob bendith a dymuniad da i’r dyfodol.

Gwasanaeth Nadolig y Plentyn eglwys Hope-Siloh

Cafwyd gwasanaeth hyfryd fore Sul 20 Tachwedd o dan ofal plant ac ieuenctid y capel. Cafwyd gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o ymgyrch Nadolig y Plentyn, a’r plant ifancaf yn hysbysebu’r ymgyrch yn llwyddiannus tu hwnt. Braf oedd gwrando ar gyfraniadau gan Heledd a Hari hefyd ar ddiwedd y gwasanaeth. Diolch yn fawr i Meinir Jones am baratoi’r cyflwyniad ac i Marie-Lynne am drefnu’r gwasanaeth. 

Bedyddio dwy

Cafwyd oedfa hyfryd ar fore Sul 27 Tachwedd pan fedyddiwyd Fiorella Mair ac Efa Liliwen ym mhresenoldeb cynulleidfa gref. Croeso mawr iddynt hwy a’u teuluoedd i deulu Hope-Siloh Pontarddulais. ‘Gadewch i blant bychain ddyfod ataf i’.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.