Tybed faint ohonoch sy’n gyfarwydd, neu wedi clywed am y Groes-wen, capel anghysbell yng nghymuned Penyrheol, Trecenydd ac Enau’r Glyn ger Caerffili?
Mae gan y capel lle canolog yn hanes dechreuadau’r diwygiad Methodistaidd yng Nghymru gan mai hwn oedd yr adeilad cyntaf i’w godi yn bwrpasol at ddefnydd y mudiad. Bu Howel Harries a Williams Pantycelyn yn ymwelwyr cyson. Maes o law daeth yn eiddo i’r Annibynwyr yn 1746. Gerllaw, ganwyd y peiriannydd William Edwards. Ef oedd sylfaenydd ac adeiladydd y capel yn 1742 a phont enwog Pontypridd. Mae’n fwy perthnasol i ni yng Nghwmtawe gan mai ef adeiladodd y bont un-bwa ger y Gwachel, Pontardawe.
Treuliodd William Williams (Caledfryn) gyfnod yn weinidog gyda’r Annibynwyr yn y Groes-wen ac fe’i claddwyd yn y fynwent yn 1869. Yno hefyd mae’r llenor a newyddiadurwr Ieuan Gwynedd. Mae nifer o feddfeini, mawr, trawiadol yn y fynwent a chyfeirir at gapel y Groes-wen fel Abaty Westminster Cymru am fod cymaint o enwogion a chewri Anghydffurfiol wedi eu claddu yno.
Braf oedd cael cydaddoli gyda’r aelodau yno a chael ychydig o’r hanes gan Vaughan Roderick, newyddiadurwr craff y BBC, sy’n aelod yno. Cawsom ddishgled a theisen yn y festri a chyfle i gwrdd â’r aelodau croesawgar a gweld y darluniau trawiadol sy’n cofnodi hanes cyfoethog un o berlau Anghydffurfiol Cymru.
Braf oedd cael pererindota unwaith eto a theithio i le anghyfarwydd. Diolch i Delma James am y trefniadau penigamp ac i’n gweinidog, y Parchg Gareth Morgan Jones am ei arweiniad a’i sylwadau pwrpasol.