Pnawn Sul 28 Medi cafwyd oedfa yn y Bay Church, Grangetown i gomisiynu Gwilym Jeffs yn arweinydd Angor Grangetown, gan Angor / Ebeneser / Undeb yr Annibynwyr.

Mae Gwil wedi ei ryddhau o'i swydd fel athro, am ddau ddiwrnod yr wythnos, er mwyn ehangu'r gwaith da mae Angor yn ei wneud yn ardal Grangetown.

Mor braf oedd gweld yr adeilad yn llawn dop o bobl a phlant o bob oed, a theimlo cynhesrwydd y croeso a'r bwrlwm. Braf iawn oedd gweld teuluoedd a phlant bach mor amlwg yn y gweithgareddau, a gwych hefyd gweld cynrychiolaeth gref o Ebeneser ac eglwysi eraill wedi ymuno i gefnogi Gwil a'r tîm yn eu gwaith.

Cafwyd oedfa hapus ac emosiynol wrth i ni weddïo am fendith Duw ar y gwaith. Darllenodd Cynan o lyfr Jeremeia 20:1-18, cyn i Alun bregethu ar yr adnodau. Soniodd Alun ei fod yn gobeithio na fydd Gwil a'r tîm yn teimlo'n unig. Fel roedd neges Duw yn llosgi ym mol Jeremeia, mae gennym ninnau hefyd neges i'w rhannu, sef gras, cariad a maddeuant. Holodd ‘ydy'r neges yn ein tanio ni?’ Os felly, bydd Duw yn ein defnyddio ni.

‘Os dywedaf, "Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw", y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.’ (Jer 20:9)

Cafodd Gwil ei holi gan Cynan, a soniodd am ei daith ysbrydol at fod yn arweinydd Angor. Dywedodd mai arweinydd petrus oedd ond ei fod yn gweld llaw Duw ar ei waith a’i fywyd. Dangosodd y ddolen QR at y llythyr gweddi ar y sgrîn a gofynnodd i ni sôn am y gwaith. Pwysleisiodd bod croeso yn Angor i bawb sydd eisiau dod i adnabod Iesu Grist.

Y bwriad maes o law yw corffori Angor yn eglwys Annibynnol Gymraeg, ond mae’r weledigaeth yn ehangach na hynny sef y bydd rhagor o eglwysi newydd yn cael eu plannu dan fendith Duw gan ddod â bywyd newydd i’n cenedl.

Diolchwn i Dduw am ei law ar waith Angor a gweddïwn am fendith Duw ar y fenter i'r dyfodol.

Janette Jones

O.N. Hoffai eglwys Ebeneser/Angor, Caerdydd ddiolch o galon i Undeb yr Annibynwyr am eu cymorth ariannol tuag at y prosiect arloesol hwn trwy’r cynllun Arloesi a Buddsoddi. Hoffem annog eglwysi eraill i fentro mewn ffydd i’r dyfodol. Mae ffydd o reidrwydd yn golygu menter. Roedd hi’n hyfryd cael cwmni'r Ysgrifennydd Cyffredinol Elinor Wyn Reynolds, Llywydd yr Undeb y Parchg Owain Llŷr Evans a Chadeirydd y Cwrdd Chwarter Siân Meinir yn yr oedfa emosiynol a dyrchafol.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.