Mae’r rhifyn diweddaraf o bodlediad Y Cwmni Bach bellach ar wefan yr Undeb. Y tro hwn, sgwrs gyda Julie Edwards, Swyddog Diogelu ar ran y Panel Diogelu Cydenwadol sydd gyda ni. Julie sy’n darparu’r hyfforddiant diogelu i’n gweinidogion a’n heglwysi ni drwy’r Panel Diogelu Cydenwadol.

Stori bywyd

Mae stori bywyd Julie yn un ddifyr; i ddechrau, nid o Gymru y daw hi ond o ogledd Lloegr. Felly, sut y daeth merch o bentref glofaol yn Swydd Durham i fyw i Gymru? Mae hanes Julie’n un annisgwyl a diddorol, ac mae’n sôn yn agored am ei thaith at ffydd hefyd. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau Y Cwmni Bach yng nghwmni Julie Edwards.

Adnabod

Erbyn hyn mae sawl pennod o’r Cwmni Bach ar gael gyda gwestai mor amrywiol â’r canwr Delwyn Siôn, Rhun Dafydd o Gymdeithas y Cymod, a’r athrawes ioga a’r grynwraig Laura Karadog. Mae pob un o’r podlediadau’n gyfle i ddod i adnabod pobl yn well a hynny mewn awyrgylch hamddenol, hwyliog. Mae pob rhifyn o’r podlediad i’w cael ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Gallwch naill ai wrando arnyn nhw neu eu gwylio fel rhaglen deledu ar y we. Adnodd yw’r podlediadau hyn i chi eu defnyddio fel yr hoffech chi, naill ai ar eich pen eich hun neu mewn cwmni. Gallwch eu gwylio nhw adre ar eich cyfrifiadur neu wrando arnyn nhw ar eich ffôn. Ond hefyd maent yn adnodd digidol i’w defnyddio gan eich eglwysi.

Adnodd hyblyg

Beth am hyn fel syniad? Os nad oes gennych chi oedfa wedi’i threfnu, defnyddiwch un o bodlediadau Y Cwmni Bach yn hytrach. Gallwch gasglu ynghyd yn y capel, cael gweddi agoriadol, canu emyn yna setlo i wylio rhifyn o’r Cwmni Bach er mwyn clywed tystiolaeth Gristnogol, yna cloi’r cwrdd drwy ganu emyn ac offrymu gweddi. Neu beth am ddangos pennod o’r Cwmni Bach dros baned yn y festri neu yn neuadd y pentref adeg cyfarfod cymdeithasol yn ystod yr wythnos yn hytrach na gwahodd gwestai?

Mae gan bob un o’r gwesteion bethau difyr a da i’w dweud a phob un yn wahanol. Mae’r Cwmni Bach yn fodd i ni sgwrsio â’n gilydd ac y bendant mi fydd y sgwrs honno’n parhau yn ein mysg.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.