Newyddion o Eglwys Llanfair, Pen-rhys
Y Pasg
Roedd wythnos y Pasg yn brysur iawn yn Llanfair, yn cynnwys nifer o oedfaon a gwahanol weithgareddau: pererindod o Ffynnon Fair i’r amffitheatr, i’r cerflun o’r Forwyn Fair ac i fyny at Lanfair; helfa wyau Pasg, gwerthiant nwyddau yn yr awyr agored ar gyfer Cymorth Cristnogol, taith gerdded ar fore Sul y Pasg ac yna mwynhau brecwast gyda’n gilydd yn y caffi.
Ysgol Sul
Fel arfer, mae tair ohonom (Anne, Natasha a finne) yn cymeryd tro i baratoi ac arwain ein hysgol Sul, ond yn ddiweddar ni’n falch iawn bod tair merch a bachgen sy’n ffyddlon iawn wedi bod yn awyddus i ymuno a’r rota, sef Carly 12 oed, Maddie 15 oed, Tyra 16 oed, a Harvey sy’n 11. Mae’n gyfle ardderchog iddyn nhw ac i ni fel oedolion gael ein hannog i ddysgu ac i weithio gyda’n gilydd.
Astudiaeth Feiblaidd
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae hi wedi bod yn fraint ac yn brofiad arbennig i groesawu ein ffrind annwyl, Parchg Dr John Morgans, atom ar fore dydd Llun ar gyfer ein hastudiaeth Feiblaidd. Ar ôl bod yn astudio gwaith Marcus Borg am gyfnod, rydyn ni wedi dechrau ail-astudio deunydd diddorol dros ben John sef, ‘Making Sense of our World’, yn seiliedig ar waith Alan T. Dale, gyda John yn ein harwain. Mae’r grŵp yn cwrdd o 11-1 o’r gloch a chroeso i unrhyw un ymuno â ni.
Mannau Cynnes
Yn ogystal â’n caffi sydd ar agor 3 diwrnod a 2 noson o’r wythnos, dechreuon ni fore coffi Mannau Cynnes yn y Lolfa ar fore dydd Gwener ’nôl ym mis Hydref y llynedd. Mae’n boblogaidd, a daw phobl ynghyd i fwynhau te, coffi a thost am ddim a chael cyfle i sgwrsio. Un bore Gwener, cawsom y cyfle i wneud gemwaith allan o ddeunydd wedi’i ailgylchu a thro arall cawsom ein hyfforddi i fod yn Ffrindiau Dementia gyda’n ffrind Alison, sy’n gwirfoddoli yn lleol gydag elusen Alzheimer’s Society Cymru.
Wythnos Cymorth Cristnogol
Ers y cyfnod pan oedd Norah a John Morgans yn byw ac yn gwasanaethu gyda ni ym Mhen-rhys, rydyn ni’n cynnal mis Cymorth Cristnogol – yn hytrach nag wythnos yn unig. Eleni, fe ddechreuon ni gyda gwerthiant pen-bwrdd (tabletop sale) ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 1 Mai. Cawsom oedfa Cymorth Cristnogol ar ddyddiau Sul, 14 ac 21 Mai a sawl oedfa gyda phlant o ysgol gynradd Pen-rhys yn dod i Lanfair ar foreau Llun. Cynhaliwyd casgliad llwyddiannus o dŷ i dŷ yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, gwerthiant pen-bwrdd yn ystod wythnos hanner tymor a stondin yn Ffair Haf yr ysgol ym mis Gorffennaf.
Prosiect Tu Hwn i’r Gofyn
Ers dros flwyddyn a hanner mae Cwmni Dawns Cymru wedi bod yn trefnu gweithgareddau yn Llanfair gydag artistiaid yn arwain a’n gwirfoddolwyr lleol yn helpu, sef grŵp rhiant a phlentyn, a grŵp ymarfer corff i oedolion ar ddydd Mercher a parkour a beatboxing ar nos Fercher. Ar nos Wener 12 Mai aeth bws ohonom o Ben-rhys i Theatr y Sherman i weld 16 o’n plant yn perfformio yn y cyntedd ac yna gwylio’r dawnswyr proffesiynol ar lwyfan y theatr mewn digwyddiad i ddathlu pen-blwydd Cwmni Dawns Cymru yn 40 oed. Roedd hi’n noson i’w chofio i bawb oedd yn bresennol!
Minny Street, Caerdydd:
Roedd hi’n bleser mawr croesawu’r Parchg Owain Llŷr, Margaret Davies a ffrindiau eraill o eglwys Minny Street, Caerdydd atom ar ddydd Sul, 10 Gorffennaf er mwyn ymuno â’n hoedfa a chael paned o de a sgwrs. Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am y rhoddion hael o beli basged, rygbi a phêl-droed gawsom oddi wrthynt i gyflwyno i blant ac oedolion ym Madagascar. Mae’r cyfeillgarwch rhyngom fel dwy eglwys yn werthfawr iawn. Cawsom groeso bendigedig wrth ein ffrindiau pan aethon ni i Minny Street y llynedd.