Mae’r Parchg Aled Jones wedi symud o’i ofalaeth yng ngorllewin Cymru i wasanaethu Eglwys Rydd, Hampstead Garden Suburb, Llundain, lle cynhaliwyd y cwrdd sefydlu bnawn Sadwrn, 2 Medi.

Er bod yr oedfa wedi ei chynnal drwy gyfwng y Saesneg roedd tinc Gymreig i’r prynhawn gydag emynau donau o Gymru, datganiadau ar yr organ o alawon Cymraeg a datganiadau hyfryd gan gôr yr eglwys, ac yn eu plith, campwaith John Rutter ‘Yr Arglwydd a’th fendithio’.

Yn cymryd rhan

Ymhlith y rhai a gymerodd ran yn yr oedfa gofiadwy oedd Dr Hefin Jones ar ran Coleg yr Annibynwyr Cymraeg, Keith Evans ar ran Gofalaeth Carmel Pren-gwyn, Saron Llangeler and Soar Pen-boyr; Glenys Earnshaw ar ran Cyfundeb Llundain, y Parchg Rob Nicholls ar ran Eglwysi Cymraeg Llundain a thraddodwyd y bregeth yn yr oedfa gan y Parchg Beti-Wyn James. Hyfryd oedd cael cwmni’r Parchgn Gwylfa Evans ac Anthony Williams hefyd. Dymunwn fendith Duw ar Aled yn ei weinidogaeth newydd a dymunwn yn dda i’r teulu cyfan yn eu cartref newydd.

Roedd gan Hampstead Garden Suburb Free Church le unigryw yn hanes Cristnogaeth yn Lloegr pan agorodd yr eglwys yn 1911, oherwydd mai hi oedd y cyntaf a oedd yn agored i bawb o bob enwad. Mae’n dal yn agored i bawb heddiw o hyd. Cafodd yr eglwys ei chynllunio gan y pensaer enwog Edwin Lytuens, a fu’n gyfrifol am sawl adeilad nodedig arall, yn ogystal â chofebau rhyfel – gan gynnwys y Cenotaph yn Whitehall.  

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.