Rhagor o newyddion o Gyngor Undeb yr Annibynwyr a gynhaliwyd yn Llety Parc, Aberystwyth ar ddydd Mercher 23 Hydref

Ategodd Dyfrig Rees y croeso cynnes i bawb oedd yn bresennol yn enwedig Annalyn Davies i gadair y Cyngor a hynny am gyfnod o dair blynedd. Dymunodd yn dda iddi yn ystod tymor ei chadeiryddiaeth. Dywedodd bod hi’n dymor newydd ar y Cyngor a’i fod yn awyddus iawn i ni ystyried cyfeiriad ein gweledigaeth a’n gweithgareddau yn ystod y tair blynedd nesaf. Rydym angen creu map anturus er mwyn mentro mewn ffydd i’r dyfodol, meddai, gan nodi’r cyfle i gyflwyno penderfyniadau ar ddiwedd y cyfarfodydd. Dylid ystyried cyflwr enbydus y byd ar hunllefau sy’n digwydd yn Gaza. Cyfeiriodd at Gyfansoddiad yr Undeb a chyfrifoldeb y Cyngor yn y cyd-destun hwnnw. 

MWY NA SIOP SIARAD

Mae’r Cyngor yn fwy na siop siarad gan fod ganddo gyfrifoldeb mawr wrth hyrwyddo gweledigaeth a llywio cyfeiriad yr Undeb a’i weithgareddau. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn – yn yr hydref ac yn y gwanwyn. A fyddai cyfarfod unwaith y flwyddyn yn ddigonol? Ar ôl trafod, penderfynwyd bod dau gyfarfod yn hanfodol er mwyn rhoi mwy o gyfle i drafod a symud materion ymlaen yn gynt.

PREGETHWYR CYNORTHWYOL NEWYDD

Cyflwynwyd adroddiad calonogol iawn gan y Cydlynydd Hyrwyddo Gweinidogaethau, Carwyn Siddall. Bu’r chwe mis diwethaf yn gyfnod o lwyddiant gyda chyrsiau. Mynychodd 21 y modiwl ‘Addoli a Phregethu’ o dan arweiniad Carwyn ac Arfon Jones. Cymeradwywyd tri fel pregethwyr cynorthwyol sef Sian Meinir, Arwyn Hughes a Megan Lloyd Williams. Y mae cydweithio yn digwydd rhwng y Bedyddwyr, y Presbyteriaid a’r Annibynwyr sy’n ein galluogi i roi graddau a chymwysterau uwch i fyfyrwyr pe bai galw am hyn. Gwych oedd clywed fod y Parchg Dylan Rhys wedi ei dderbyn i wneud cwrs gradd meistr mewn diwinyddiaeth gyda Phrifysgol, Caerdydd. Bwriedir datblygu modiwlau ychwanegol ar fugeilio a gweddïo. Cynhaliwyd diwrnod o hyfforddiant i bregethwyr cynorthwyol ac i eraill oedd â diddordeb yn Llety Parc ym mis Medi. Cyflwynodd y Parchg Beti-Wyn James ac Owain Llŷr Evans sesiynau gwerthfawr yno. Ceir rhagor o fanylion yn yr erthygl fydd yn ymddangos yn y rhifyn nesaf o Dyma’r Undeb.

YMWELWYR HERIOL!

Ar ddechrau Medi mewn cydweithrediad â CWM, daeth criw o ferched i ymweld â Chymru o dan arweiniad y Parchg Dr Amelia Koh-Butler (llun) sy’n weinidog yn Awstralia. Treuliasant amser yng Ngholeg y Bala a Threfeca gan ymweld ag amrywiol eglwysi a phrosiectau perthnasol. Ar un o’u dyddiau olaf yma gofynasant a fuasent yn cael arwain sesiwn. Yn y sesiwn hwnnw buont yn rhannu yr hyn a ddysgwyd ganddynt o fod yn ein plith ac yr oeddent yn ddiflewyn ar dafod. Codwyd nifer o faterion a chwestiynau diddorol ganddynt gan gynnwys:

GWEINIDOGAETH

Mae llawer o arweinyddion Cristnogol yn ymddangos fel pe baent wedi blino. Hefyd gallwch fod yn fewnblyg iawn gan edrych ar eu bogail eich hunain gan golli golwg ar y darlun mawr. Mae nifer o eglwysi’n ceisio cynnal gweinidogaeth lawn amser ond pa mor gynaliadwy yw hynny? Oni fyddai’n well cael gweinidogaeth ran amser lle mae gan weinidogion ffynhonnell ariannol arall. Gofynnwyd ganddynt a yw’r pwyslais yn ein plith yn ormodol ar blant ac ieuenctid a bod perygl inni amddifadu’r rhieni o weinidogaeth effeithiol? Y mae cyfnod o 3 blynedd yn llawer rhy fyr i ariannu prosiectau.

DIWINYDDIAETH

Beth yw’r rheswm diwinyddol a Beiblaidd am ein gweithgareddau? A ydym yn edrych yn ddiwinyddol ar holl waith ein heglwysi?

Hyrwyddo cydweithio

Mae gan yr enwadau yng Nghymru gynlluniau rhagorol ond mae nifer o’r prosiectau yn hynod o debyg i’w gilydd. Oni ddylid gwarantu bod strwythurau yn eu lle i hyrwyddo cydweithio? Mae’n amlwg mai'r hyn sy’n llethu eglwysi yw’r holl adeiladau. A ydych eu hangen? Os nad oes defnydd iddynt beth ydych yn mynd i’w wneud gyda hwy? Rydych yn wych am ddathlu eich hanes, mae hynny’n bwysig, ond faint o bwyslais a rowch chi ar gynllunio a datblygu’r eglwys i’r dyfodol. Pam nad oes rhagor o ferched yn y weinidogaeth a pham nad yw gweinidogion yn gwisgo gwisg glerigol?

Diolchwyd i Carwyn yn wresog iawn am y gwaith rhagorol y mae yn ei gyflawni.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.