Nid yw heddwch iawn yn bosibl nes i ni beidio annog tywallt gwaed pobl Wcrain a Rwsia drwy anfon arfau i Wcrain. Daw heddwch drwy gadoediad, diplomyddiaeth a thrafodaethau.

Mae Cymdeithas y Cymod yn apelio ar eglwysi, Cristnogion a phobl o bob ffydd neu ddim yng Nghymru i ddarllen a gweithredu ar Ddatganiad grymus Vienna sydd wedi dod allan o’r Uwchgynhadledd dros Heddwch yn Wcrain a gynhaliwyd ym Mehefin 2023. Yng ngeiriau’r Datganiad “credwn yn gryf fod rhyfel yn drosedd yn erbyn y ddynoliaeth ac nad oes datrysiad milwrol i’r argyfwng presennol.”

Dydd Sadwrn Medi 30ain am 3.30 o’r gloch gwahoddwn y cyhoedd i ymgynnull o flaen Siop Awen Meirion ar Stryd Fawr y Bala i nodi cychwyn wythnos ryngwladol dros weithredu (Medi 30 – Hydref 8fed) ac i alw am gadoediad a thrafodaethau heddwch ar unwaith i ddwyn y rhyfel i ben. 

Bydd y weithred hon o dystiolaeth yn dilyn encil ar y cyd rhwng Cristnogaeth 21 a Cymdeithas y Cymod fydd yn cael ei chynnal yn Eglwys Crist y Bala. Mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb i ddysgu sut mae gwreiddiau’r ddau fudiad yn ysbrydoli’n llwybrau i’r dyfodol ddod i’r encil.

Mae trefi eraill led led Cymru hefyd yn trefnu digwyddiadau i nodi’r Wythnos ryngwladol o weihtredu ac i alw am ddiwedd i’r rhyfel yn Wcrain. Bydd Cor Gobaith yn canu ar strydoedd Aberystwyth. Bydd eglwysi a grwpiau cymunedol yn trafod ac yn gweithredu ar Ddatganiad Vienna sydd i’w weld ar wefan Cymdeithas y Cymod. Mae taflenni ar gael i’w rhannu.

Mae adnoddau ar gyfer addoli a thrafodaeth ar gael i annog myfyrdod meddylgar a galwad i weithredu drwy Cymdeithas y Cymod. Mae gwylnos zoom wythnosol bob nos Wener am 7.30 yn gyfle i ymuno efo pobl ar draws y byd i alw am heddwch yn Wcrain. Cawn ein herio i wneud y cysylltiad sydd rhwng y paratoi at ryfel, y fasnach arfau a her newid hinsawdd a dinistrio’r amgylchedd naturiol.

Am fwy o wybodaeth ebostiwch cymdeithasycymod@gmail.com.


Dyma'r datganiad o'r Uwchgynhadledd dros Heddwch yn Wcrain

Heddwch trwy ddulliau heddychlon. Cadoediad a thrafodaethau rwan!

Rydym ni, drefnwyr yr Uwchgynhadledd dros Heddwch yn Wcrain yn galw ar arweinwyr ymhob gwlad i weithredu i gefnogi cadoediad a thrafodaethau ar unwaith i ddod â’r rhyfel yn Wcrain i ben.

Yr ydym yn glymblaid eang ac amrywiol o ran gwleidyddiaeth sy’n cynrychioli mudiadau heddwch a chymdeithas ddinesig, gan gynnwys pobl ffydd mewn sawl gwlad. Yr ydym yn gwbl unedig yn ein cred bod rhyfel yn drosedd yn erbyn y ddynoliaeth ac nad oes unrhyw ddatrysiad milwrol i’r argyfwng presennol. 

Yr ydym wedi’n dychryn a’n tristhau gan y rhyfel. Mae cannoedd o filoedd wedi eu lladd a’u hanafu a miliynnau wedi eu dadleoli ac yn dioddef trawma. Mae dinasoedd a phentrefi ar draws Wcrain a’r amgylchedd naturiol wedi cael eu chwalu. 

Gall marwolaeth a dioddefaint llawer mwy ddigwydd petai’r gwrthdaro’n gwaethygu i ddefnyddio arfau niwclear, risg sy’n uwch heddiw nag ar unrhyw gyfnod ers argyfwng taflegrau Cuba. 

Rydym yn condemnio goresgyniad anghyfreithlon Rwsia o Wcrain. Nid yw’r sefydliadau a grewyd i sicrhau heddwch a diogelwch yn Ewrop wedi gweithio ac mae methiant diplomyddiaeth wedi arwain at ryfel. Mae angen brys am ddiplomyddiaeth rwan i ddod â’r rhyfel i ben cyn iddo ddinistrio Wcrain a bygwth y ddynoliaeth. 

Rhaid i’r llwybr at heddwch gael ei sefydlu ar egwyddorion diogelwch cyffredin, parch at hawliau dynol rhyngwladol a’r hawl i bob cymuned i wneud eu penderfyniad eu hunain. 

Rydym yn cefnogi pob trafodaeth sy’n sefyll dros resymeg heddwch yn hytrach nag afresymeg rhyfel. 

Rydym yn cadarnhau ein cefnogaeth i drigolion Wcrain sy’n amddiffyn eu hawliau. Rydym yn ymrwymo ein hunain i gryfhau’r ddeialog efo’r rhai yn Rwsia a Belarws sy’n rhoi eu bywydau dan fygythiad drwy wrthsefyll rhyfel ac amddiffyn democratiaeth. 

Galwn ar ddinasyddion ymhob gwlad i ymuno efo ni mewn wythnos o weithredu rhyngwladol (Sadwrn Medi 30 – Sul Hydref 8fed) gan alw am gadoediad a thrafodaethau heddwch ar unwaith i ddod â’r rhyfel hwn i ben. Vienna, Mehefin 11eg 2023 

“Rhaid i ni gyd wneud ein rhan, er mwyn i ni fod yn foddion i greu heddwch.”

- Albert Einstein

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.