Teitl ymgyrch y Rhwydwaith Merched eleni yw 'Glandeg'. Dyma ychydig am nod yr ymgyrch a'r weledigaeth y tu ôl iddi gan gadeirydd y Rhwydwaith, Mererid Mair.

Mewn sgwrs ddiweddar ynglyn â chynnyrch glanweithdra, harddwch a cholur, dyma fi’n datgan yn reit gadarn “Does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn moisturisers a cholur ac ati – dwi ddim yn defnyddio gymaint a hynny o bethau!”

Ond yn dilyn cyfarfod o swyddogion Rhwydwaith Merched UAC yn ddiweddar lle roeddem yn trafod effaith tlodi yn ein cymunedau a thema ac ymgyrch ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, dyma ystyried faint o ‘toiletries’ a chynnyrch i’r croen a colur ydw i’n ei ddefnyddio go iawn. Dyma nodi felly un bore, bob dim roeddwn yn ei ddefnyddio i gadw fy hun yn lan, a fy ngwneud yn barod ar gyfer y dydd boed hynny yn ddiwrnod o waith neu hamdden. 

Mi fyddai’n hoffi cawod yn y bore felly dyma ddechrau; 

Cawod

  • bar siampw i olchi fy ngwallt
  • conditioner
  • sebon a gwlanen molchi ar gyfer golchi.
  • Deodarant (hollol anghenrheidiol).
  • Brws dannedd a past dannedd

Gwallt

  • Sywchwr gwallt
  • Cynnyrch gwarchod y gwallt rhag gwres y sychwr 
  • Cynnyrch i wneud fy ngwallt edrych yn fwy trwchus!! 
  • Brws gwallt a ‘clip’ os fydd y gwallt yn cael ei roi i fyny!

Fy wyneb!

  • Moisturiser
  • Concealer – (i orchuddio’r bochau coch a brychni haul!)
  • Foundation

Taswn i’n mynd allan gyda’r nos, efallai baswn i’n rhoi ychydig o liw ar y llygaid a mascara – ond mae hynny yn ormod o ffaff i fi bob diwrnod!

Ond heb feddwl bron iawn, dwi’n defnyddio dros ddwsin o eitemau glanweithdra/harddwch gwahanol cyn gadael y ty bob dydd. A dwi’n gwneud hynny heb feddwl eilwaith. 

Cefnogi Beauty Banks

Ar gyfer ymgyrch Rhwydaith merched am y flwyddyn nesaf, awgrymwyd cenfogi cynllun Beauty Banks sy’n cysylltu ymgyrchwyr efo elusennau sy’n lleol iddynt hwy er mwyn casglu rhoddion o gynnyrch glanweithdra. Mae’r Rhwydwaith yn credu fod hwn yn ymgyrchu arbennig ar gyfer cefnogi elusennau sy’n helpu pobol mewn sefyllfaoedd bregus; y rhai sydd mewn argyfwng ariannol, pobl di-gartref neu mewn llety dros dro. 

Mae hefyd yn fodd i annog trafodaeth ynglyn â hawl pob unigolyn i fod yn lân a teimlo yn dda amdanynt eu hunain. Diolch i Casi Jones am fathu teitl gwych i’r ymgyrch: Glandeg

 Mererid Mair - Cadeirydd y Rhwydwaith Merched

 

Useful Links

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.