Gan ein bod ni parhau i fod mewn cyfnod gwahanol i’r arfer, eleni gwahoddir ysgolion Sul i ddefnyddio’u dychymyg a’u doniau creadigol i greu fideo byr (dim mwy na 2 funud o hyd) ar y thema:
Rheswm i ddathlu
‘Dewch, gadewch i ni ganu’n llawen i’r Arglwydd.’
Salm 95:1
Ym mlwyddyn dathliadau 150 Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, pa resymau sydd gennym i ddathlu fel Cristnogion yng Nghymru heddiw?
Anfoner eich fideos at rhodri@annibynwyr.cymru erbyn 15 Mehefin 2022.
Caiff cyflwyniad o’r holl gyfraniadau ei ddangos yn ystod ein Cyfarfodydd Blynyddol yng Nghaerfyrddin ym mis Gorffennaf.
Os am fwy o fanylion, cysylltwch â Thŷ John Penri: 01792 795888 neu undeb@annibynwyr.cymru