Beth yw'r cysylltiad rhwng Cymru a Cholombia?

Eleni rydym yn codi arian at waith Cymorth Cristnogol yn y wlad ar gyfer ein hapêl, Ffynhonnau Byw. Nod yr apêl yw dwyn sylw at waith yr elusen, sydd wedi bod yn gweithio yng Ngholombia ers dros 20 o flynyddoedd.  Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith pwysig er budd yr amgylchedd, y bobl gynhenid a hawliau merched.

Cerddoriaeth

Er nad oes cysylltiad amlwg rhwng Cymru a Cholombia, mae cerddoriaeth yn llinyn cyswllt sydd wedi dod â'r ddwy wlad ynghyd. Yn ystod yr haf eleni bu un o grwpiau cerddorol amlycaf Colombia yn teithio drwy Gymru gyda'r delynores enwog, Catrin Finch.  Mae eu perthynas gerddorol hwy yn mynd yn ôl dros sawl blwyddyn, a bellach mae Cimarrón a Catrin Finch yn cyflwyno noson fywiog o gerddoriaeth, yn asiad o alawon Cymreig a cherddoriaeth sydd â'i gwreiddiau yng ngwastadeddau afon Orinoco.  

Mae Catrin yn esbonio mai gwraidd y cysylltiad yw'r delyn, offeryn sy'n cael ei gysylltu'n syth â Chymru, ond sydd hefyd yn rhan annatod o gerddoriaeth rythmig, fywiog Colombia.

Hawliau Merched

Mae parch a bri mawr yn perthyn i'r grŵp Cimarrón ledled y byd. Maent wedi cael eu henwebu yng nghystadleuaeth y Grammys, ac mae eu miwsig egnïol yn llawn o ddylanwadau Lladin, gan gynnwys rhythmau Periw / fflamenco ar ddrymiau'r cajón, ac offerynnau chwyth sy'n gynhenid i'r wlad.

Mae'r brif gantores ac arweinydd y band, Ana Veydó, yn gwneud gwaith cymunedol hollbwysig hefyd.  Mewn diwylliant lle mae cantorion benywaidd yn brin, mae Ana yn addysgu eraill ac yn gosod esiampl o'r hyn sydd yn bosibl, gan bwysleisio pwysigrwydd hawliau merched.

 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.