Yn ystod tymor y Grawys eleni, bu cynulleidfa Capel y Nant yn canolbwyntio ar yr elfen gyntaf o’r Pum Peth Personol, sef Bwyd, a chafwyd digon i gnoi cil arno wrth ystyried rôl bwyd yn ein bywydau a’r holl ddewisiadau mae pawb ohonom yn eu gwneud bob dydd yng nghyswllt bwyd.

Buom ni’n myfyrio ar ein rôl fel stiwardiaid y cread, ac yn rhoi sylw i’r gadwyn fwyd, a’r modd y mae bwyd yn dod â phobl ynghyd. Ar hyd cyfnod y Grawys, gofynnwyd i bawb ddod â cheiniogau i’r oedfa i’w hychwanegu at y llestr, gyda phob ceiniog yn cynrychioli dewis gofalgar roedden nhw wedi’i wneud, ac roedd y dewisiadau gofalgar hynny yn cynnwys rhai o’r canlynol:
- dewis cynnyrch organig neu fasnach deg am y tro cyntaf
- dewis pryd llysieuol yn hytrach na chig
- gwneud dewis oedd yn osgoi gwastraff
- edrych yn fwy manwl ar o ble roedd cynnyrch penodol yn dod, er mwyn lleihau milltiroedd bwyd.
Wrth i’r wythnosau fynd heibio, gwelwyd y ceiniogau’n crynhoi’n sylweddol yn y llestr, ac rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at droi ein sylw at elfennau eraill y Pum Peth Personol yn eu tro.