Croeso i dudalen Dysgu a Datblygu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.


Wrth ddarllen y Beibl, gwelwn dro ar ôl tro bobl yn addysgu ac yn cael eu haddysgu, ac wrth gwrs, nid oedd Iesu ei hun yn eithriad gan iddo anerch a dysgu’r bobl drwy ei bregethu, a chael ei gyfarch fel ‘athro’ gan rai o’r bobl oedd yn gwrndo arno. Drwy’r addysgu hwn, a than arweiniad yr Ysbryd, gwelwn hanesion ym mhob cenhedlaeth am bobl gyffredin yn tyfu mewn ffydd.

Bwriad pennaf Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yw cynorthwyo eglwysi i wasanaethu Iesu Grist, ac er mwyn cynorthwyo unigolion oddi fewn i’r eglwysi i gyflawni’r gwaith, ein braint drwy’r rhaglen Dysgu a Datblygu ydi cynig ystod eang o sesiynnau a modiwlau hyfforddiant.

Duw, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, sy’n galw pobl i gyflawni gwaith Cristnogol. Ni fydd pawb yn cael eu galw i gyflawni’r un gwaith, ond yn hytrach, ein galw yn ôl ein doniau amrywiol. Yn wyneb hyn, credwn yn gryf mewn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, a hynny i unigolion ac eglwysi.

 

"Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn hynod falch o’r cynllun Dysgu a Datblygu sy’n gynllun cyffrous ac arloesol ar gyfer heddiw. Cynllun hyfforddi ymarferol yw hwn sy’n ymatebol i anghenion llawr gwlad er mwyn grymuso a galluogi pobl yn eu heglwysi, eu cymunedau a thu hwnt. Rydyn ni’n credu mewn buddsoddi mewn pobl, gan obeithio y bydd y cynllun yn gyfrwng i feithrin to newydd o dystion ar gyfer ein hoes ni ac i’r dyfodol".

Elinor Wyn Reynolds, Ysgrifennydd Cyffredinol

 

Mae croeso i unrhyw un, beth bynnag eich cefndir, a faint bynnag o brofiad sydd gennych neu beidio, i ymuno â ni. Bydd rhai yn gwneud am resymau personol, eraill i gymhwyso fel Pregethwyr Cynorthwyol Cydnabyddedig neu ar gyfer y Weinidogaeth Ordeiniedig, a bydd rhai yn dewis gwneud heb unrhyw reswm penodol ag eithrio eu bod â diddordeb ac awydd.

Mae’r maesydd, y dewisiadau a’r ddarpariaeth yn barod. Croeso ar y daith hon o ddysgu a datblygu.

Carwyn Siddall

Cyfarwyddwr Hyfforddi a Datblygu

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.