Nôl ym 1872, ar ôl cyfarfod cyntaf Undeb yr Annibynwyr yng nghapel Heol Awst, Caerfyrddin fe wnaeth y Llywydd, Gwilym Hiraethog, hebrwng y cynrychiolwyr i dafarn Y Drovers drws nesa – i gael bwyd, wrth gwrs!

Parhau â’r traddodiad hwnnw wnaeth Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin trwy gerdded o gyfarfod boreuol ein Cwrdd Chwarter yng Nghapel y Graig, Tre-lech i fyny’r ffordd i Dafarn Beca. Yno, darparwyd cawl hynod flasus a phwdin i’r 40 oedd yno rhwng y bore a’r prynhawn. Ar ôl ei fwynhau a chymdeithasu, fe ganwyd emyn cyn i Caroline Harries ddarllen o’r Beibl a Terry James ein harwain mewn gweddi. Yna fe wnaeth Gareth Ioan, Cadeirydd y Cyfundeb, groesawu a chyflwyno Llinos Roberts, Cymorth Cristnogol.

Cymorth Cristnogol

Tynnodd Llinos sylw at y ffaith fod yr elusen wedi dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed y llynedd, ac mewn byd cynyddol ansicr gyda rhyfeloedd ac argyfyngau eraill, ei bod yn dibynnu’n helaeth ar gefnogaeth eglwysi ac unigolion hael. Yn ôl adroddiad blynyddol yr elusen, bu Cymorth Cristnogol yn ymwneud â 463 o brosiectau ledled y byd, gan weithio drwy bartneriaid lleol. O’r £71m a godwyd y llynedd, cyfrannodd grwpiau lleol £52m, yn bennaf drwy Wythnos Cymorth Cristnogol, boreau coffi, gwasanaethau a rhoddion tawel. 

Yr Apêl eleni

Cyfeiriwyd hefyd at waith sensitif ond hanfodol yr elusen yn y Llain Orllewinol a’r Dwyrain Canol, lle mae partneriaid lleol yn cefnogi’r digartref, pobl mewn trawma a phlant sy’n dioddef, a hynny mewn modd gofalus er mwyn peidio peryglu’r gwaith ar lawr gwlad. Nodwyd fod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni’n cael ei chynnal ar 11–18 Mai, gyda’r ffocws ar Kenya, gwlad lle mae’r elusen wedi gweithio ers blynyddoedd lawer, ac sy’n wynebu ansicrwydd mawr a diffyg maeth, yn enwedig ymhlith plant, oherwydd newid hinsawdd. 

Rhoi effeithiol

Clywyd hefyd hanes personol Freda, gweddw sy’n byw ar gyrion Nairobi, sy’n cael cefnogaeth gan Beacon of Hope i geisio cadw ei phlant yn yr ysgol. Mae hi’n cynnal gardd fach, yn casglu dŵr glaw i ddyfrio’r ardd, ac yn gwerthu’r cynnyrch sydd dros ben er mwyn cynnal y teulu. Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi, gan nodi bod trosglwyddo arian yn uniongyrchol yn ffordd fwy effeithiol oherwydd costau bancio, gan ddiolch yn ddiffuant am holl gyfraniadau’r eglwysi ac unigolion.

Y cyfarfod yn y capel

Yng nghyfarfod y bore, bu Alyson Harries yn darllen a gweddïo, cyn i Jean Lewis roi hanes yr achos, a ffurfiwyd ym 1670. Dros y blynyddoedd fe wnaeth yr eglwys fagu’r nifer rhyfeddol o 48 o weinidogion. Bu’r eglwys yn ddi-weinidog ers 2021, er i Karen Owen dreulio cyfnod fel gweinidog dan hyfforddiant. Mae yna ysgol Sul fywiog, gyda’r bobl ifanc yn barod iawn i gymryd rhan yn ôl y galw. Yn ogystal â chyrddau ar y Sul, cynhelir oedfaon arbennig, gan gynnwys un ddwyieithog ar noswyl Nadolig a chanu carolau o gwmpas yr ardal i godi arian tuag at elusennau. O ran y dyfodol, gobeithir ehangu’r ofalaeth a chael gweinidog neu arweinydd, ac ailddechrau’r Trafodaethau Beiblaidd a’r Clwb Drama a fu yn yr eglwys gynt.

Y sefyllfa yn y Dwyrain Canol gafodd y sylw pennaf yn ystod y bore. Anfonwyd llythyr ar ran y Cyfundeb gan ein Cadeirydd y Parchg Gareth Ioan at Lysgennad yr Unol Daleithiau, ac fe gafwyd ymateb prydlon a chwrtais (gweler Y Tyst, 16 Ebrill). Anfonwyd llythyr arall at Lywodraeth Prydain, ac ers hynny cafwyd ymateb gan adran y wasg y llywodraeth. Dyma grynodeb byr iawn o lythyr hirfaith:

‘Blaenoriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw parhau i ddiogelu pobl o Brydain sy’n byw yn y Dwyrain Canol, a chefnogi cynghreiriaid er mwyn ceisio atal y gwrthdaro rhag gwaethygu ymhellach. Dim ond drwy ddulliau diplomyddol y gellir sicrhau diwedd cyflym a pharhaol i’r sefyllfa. Mae rhwystro cludo nwyddau allweddol trwy Gulfor Hormuz eisoes yn cael effaith economaidd sylweddol, gan arwain at brisiau ynni uwch a phwysau ar gostau byw. Mae’r DU yn cydweithio’n agos â phartneriaid rhyngwladol i adfer diogelwch yn y rhanbarth, gan gynnwys sicrhau llif masnach diogel trwy’r culfor. Nid yw’r DU yn rhan o’r ymosodiadau cychwynnol ar Iran, ond rydym yn cymryd camau cyfyngedig ac amddiffynnol yn unol â chyfraith ryngwladol. Daw hyn wrth i fwy na 100,000 o wladolion Prydeinig gael cymorth i ddychwelyd yn ddiogel i’r DU.’

(Gellir gweld yr ymateb llawn ar wefan cyfundeb.com) 

Cafwyd cyflwyniad gan y Parchg Tom Defis am y mater hollbwysig hwn, sy’n cynnwys mynychu’r cwrs hyfforddi a sicrhau tystysgrif DBS. Mae angen Swyddog Diogelwch ym mhob eglwys, a phetai rhywbeth amheus yn digwydd, mae’n hanfodol dilyn proses. Gofynnir i unrhyw un sydd â chwyn i roi gwybod i Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb. Yn ogystal â’r hyfforddiant ar-lein, bydd y Pwyllgor Gwaith yn trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb gyda Julie Edwards, sy’n byw yn Rhydaman. Mae’r hyfforddiant ar gyfer ymddiriedolwyr, diaconiaid, ymwelwyr â phobl fregus, swyddogion eglwysi, trigolion tŷ capel, gofalwyr capel, ac athrawon a rhai sy’n cynorthwyo yn yr ysgol Sul. O fewn y cyfundeb ar hyn o bryd, Jean Lewis a Tom Defis sy’n sicrhau bod y ffurflenni wedi’u llanw’n gywir. Rhaid, hefyd, cael yswiriant digonol, a chynnwys popeth, e.e. mynwent a thŷ capel.

Ar ddiwedd y cyfarfod, lle trafodwyd nifer o faterion eraill yn ymwneud â gwaith y cyfundeb, fe wnaeth y Parchg Gareth Ioan longyfarch Jean Lewis ar ddod yn Gadeirydd Cyngor Undeb yr Annibynwyr, a diolch i bawb wnaeth gyfrannau at lwyddiant cyfarfodydd prysur a bendithiol yn Nhre-lech. 

(Erthygl yn seiliedig ar nodiadau Joan Thomas, Cofnodydd y Cyfundeb) 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.