Ar fore Sul, 28 Medi daeth cynulleidfa luosog ynghyd i ddathlu 225 mlwyddiant capel Bethlehem, Dyffryn Ceidrych.

Cychwyniadau

Codwyd y capel cyntaf ym 1800 gyda’r achos yn parhau yn y llecyn hyfryd yma wrth odre’r Garn Goch. Wrth i’r gynulleidfa gynyddu cafodd y capel ei ailgodi ym 1834 a’i adeiladu ar ei ffurf bresennol ym 1872. Cyn adeiladu’r capel cyntaf cynhaliwyd cyfarfodydd Cristnogol ar aelwydydd cyfagos – Bancyfedwen, Ysgubor y Twyn a Penfforest, â ffyddloniaid Annibynnol y cylch yn mynychu’r capeli tu draw i Drichrug sef Jerwsalem a Capel Maen Gwynfe. Aelodau Jerwsalem fu’n flaenllaw iawn gyda chychwyn yr achos yn Nyffryn Ceidrych. Tristwch yw bod y ddau gapel erbyn hyn wedi cau eu drysau.

Gofalaethau

Mae Bethlehem wedi perthyn i sawl gofalaeth ers y cychwyn cyntaf, Seion a Sardis Myddfai, Llansadwrn, Penybanc, Carmel, Capel Isaac, ond erbyn hyn mae’r uniad wedi bod gyda Providence, Llangadog ers 1906. David Davies, gŵr o ardal Drefach, Llangeler oedd y gweinidog cyntaf a bu gofal Sardis, Seion a Bethlehem ganddo ar hyd ei weinidogaeth. Mae’n debyg mai David Davies yn ei gyfnod oedd pregethwr mwyaf swynol y cylchoedd hyn, ac fe gafodd ei bersonoliaeth hawddgar a’i lais soniarus ddylanwad enfawr ar gynulleidfaoedd ei ddydd. Mae pedwar ar ddeg o weinidogion wedi gwasanaethu ym Methlehem ers y cychwyn cyntaf. Diolch iddynt am eu tystiolaeth a’u harweiniad. Yr un yw’r diolch i’r holl swyddogion a’r aelodau am eu brwdfrydedd a’u ffyddlondeb. Nhw, ynghyd â ffyddloniaid heddiw sydd wedi sicrhau parhad yr achos ym Methlehem.

Cyfarfod Dathlu

Braf iawn oedd cael croesawu cymaint i’r oedfa gan gynnwys nifer o blant yr eglwys o bell ac agos a oedd wedi manteisio ar y cyfle i ‘ddod adre’. Llywyddwyd yr oedfa gan Mrs Haulwen Booth gydag ieuenctid y capel yn gyfrifol am y rhannau arweiniol. Darllenwyd o broffwydoliaeth Eseia gan Jack Davies ac o Efengyl Mathew gan Rachel Harries gyda Gwawr Jones yn arwain mewn gweddi. Cafwyd dwy eitem gerddorol gan blant Ysgol Sul yr ofalaeth – ‘Fy Fflam Fach i’ a ‘Pen-blwydd hapus i gapel Bethlehem’. Ruth Rees oedd wrth yr organ.

Guto Talar Wen

Y pregethwr gwadd oedd y Parchg Guto Prys ap Gwynfor. Un o blant Bethlehem yw Guto a braint oedd ei groesawu i’n plith. Yn adroddiad blynyddol y capel am 1974 dyma ddywedodd y diweddar Barchg Alwyn Williams:

 

‘Bore Sul Medi’r 8fed cafodd yr Eglwys ym Methlehem brofiad cwbl newydd, fe’i galwyd i fod yn ‘Dyst’ i fachgen ieuanc yn cynnal ei Oedfa gyntaf, ac yntau a’i wyneb ar y weinidogaeth.  Y bachgen addawol wrth gwrs yw Guto Prys Evans, Talar Wen. Ni allwn feddwl am Guto yn unman arall, ond yn y cyfeiriad yma yn rhywle, yn goleuo ac yn hyfforddi pobl a’u harwain at Grist. Na foed i ni bylu’r weledigaeth sydd ganddo, rhown gefnogaeth iddo a chyfle i Dduw ei ddefnyddio i’w bwrpas anfeidrol ei hun.’

Y graig

Dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf mae’r weledigaeth honno wedi blodeuo a dwyn ffrwyth ar ei chanfed. Yn bregethwr grymus, yn heddychwr i’r carn, yn athro, yn hanesydd, yn ysgolhaig, ac yn un ohonom ni. Yn ei anerchiad cyfeiriodd Guto at eiriau o broffwydoliaeth Eseia – ‘Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd ohoni.’ Soniodd am ein cyndeidiau, yn weinidogion a ffyddloniaid yr achos yma ym Methlehem ac yn genedlaethol, rhai a frwydrodd yn erbyn llawer o anawsterau i sicrhau parhad y weinidogaeth Gristnogol i genedlaethau’r dyfodol. Ond, wrth bwysleisio pwysigrwydd y gorffennol cawsom ein hatgoffa o eiriau’r Bregeth ar y Mynydd o Efengyl Mathew – ‘Chwi yw halen y ddaear’ ‘Chwi yw goleuni’r byd.’ Geiriau Iesu Grist i’w ddisgyblion i’w trwytho a’u goleuo cyn eu danfon allan i’r byd. Yr union eiriau all ein goleuo ninnau a’n harwain yn y dyddiau cythryblus sydd ohoni ar hyn o bryd. Trwy oleuni’r Iesu fe all hwn fod yn fyd gwell, yn fyd mwy teg a chyfiawn.

Gobeithio i bawb dderbyn bendith o’r newydd wrth gydaddoli a chyd-ddathlu. Yn dilyn y cyfarfod, cafodd pawb wahoddiad i fynd i’r hen ysgoldy am ddishgled o de a lluniaeth ysgafn. Cyfle arall i fwynhau a hel atgofion yng nghwmni ein gilydd.

 

Haulwen Booth

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.