Ar 5 Ebrill 1726 agorwyd capel newydd yn Heol Awst ar gyfer yr ychydig bobl a arferai gyfarfod mewn tŷ annedd i addoli.

Dechreuodd yr eglwys ei bywyd mewn adeilad yn Heol y Prior a adnabuwyd fel tŷ cwrdd. Dyna'r rheswm y mae’r plac ar wal flaen y capel presennol yn galw’r lle yn ‘meeting house’. Rhoddodd un o’r aelodau, John Corrie, dir i godi’r hen dŷ cwrdd hwn yn ogystal â darn bach o dir ar gyfer mynwent yn y cefn. Mae’n debyg bod yna lwybr yng nghanol yr hen dŷ cwrdd hwn, y pulpud yn y pen pellaf, a llofft gyferbyn â hwnnw. Dengys gweithredoedd y capel, dyddiedig 12 Mai 1725, bod yr aelodau eisoes yn cyfarfod yn Heol Awst cyn hyn.

  Cynnydd

Yn ystod cyfnod gweinidogaeth y Parchg David Peter (1792–1837) tyfodd yr eglwys i’r fath raddau fel y daeth y capel yn rhy fach, ac ym 1802 datgymalwyd yr adeilad, er mwyn adeiladu capel mwy o faint. Gosodwyd y garreg sylfaen ar 2 Mai 1802, a dechreuwyd addoli yn y tŷ cwrdd newydd hwn, 18 Gorffennaf yr un flwyddyn.

Ymhen rhyw ugain mlynedd roedd yr adeilad hwn, eto, wedi mynd yn rhy fach, felly ar 10 Hydref 1825 lluniwyd gweithredoedd newydd i brynu tŷ a gardd a oedd yn ffinio â’r tŷ cwrdd. Ar 26 Ebrill 1826 trefnwyd i godi’r capel presennol, ac ar 5 Ebrill 1827 fe’i agorwyd. Ystyriwyd y dydd hwn yn ddydd o ŵyl yn y dref, a chaewyd y siopau o barch i’r ganolfan ysbrydol newydd hwn. Mae’n debyg mai dyma gapel mwyaf yr Annibynwyr yng Nghymru yr amser hwnnw, a disgrifiodd un o’r gweinidogion diweddarach, Dyfnallt, y pulpud arbennig, uchel, yn ‘witness box’. Yn y dyddiau cynharaf, roedd cryn dipyn yn uwch nag yr ydyw erbyn heddiw. Ychydig iawn o newidiadau eraill a wnaed i’r capel oddi ar y flwyddyn honno.

Cyfarfodydd cyntaf yr Undeb

Roedd 1872 yn flwyddyn bwysig yn hanes y capel a’r eglwys. Dyma leoliad cyfarfodydd blynyddol cyntaf erioed Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Llywydd cyntaf yr Undeb oedd Gwilym Hiraethog, a oedd yn weinidog yn Lerpwl. Pan gaeodd y capel hwnnw ei ddrysau am y tro olaf, dymuniad yr aelodau oedd bod y gadair a ddefnyddiai yno yn dod i Heol Awst, a dyma’r gadair a ddefnyddia pob person a ddaw atom i’r festri i bregethu.  

Ymhen hanner canrif dychwelodd Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb i Heol Awst unwaith eto. Ar y noson gyntaf (29 Mai 1922) dadorchuddiwyd ffenestr goffa Stephen Hughes, ‘Apostol Sir Gaerfyrddin’ a sefydlodd yr eglwys yn gynnar yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Dyma’r unig gofeb sydd ar gael i’r gwron hwn. Yr wythnos gynt dadorchuddiwyd ffenestr goffa i’r bechgyn a gwympodd yn ystod y Rhyfel Mawr, ac yn ddiweddarach ychwanegwyd enwau’r bechgyn a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd. Dadorchuddiwyd ffenestr goffa Dyfnallt, a fu yn weinidog yr eglwys o 1910 i 1946, ar 10 Ebrill 1960, ac ym 1981 rhestrodd Cadw yr adeilad yn un Gradd 2 ac yn Safle Treftadaeth y Byd. Ceir hefyd nodweddion eraill sy’n werth eu gweld yn yr adeilad, er enghraifft dwy ffenestr liw, bach o ran ei maint, a allai fod wedi bod yno oddi ar 1826. Ond wrth gloi, cyfeiriaf yn unig at yr ychwanegiadau eraill, fel y system gwresogi, yr organ bib, yr ysgoldy, y festri fach, y toiledau, ac ystafell y gweinidog sydd, erbyn hyn, yn rhan o’r adeilad anferth hwn yn Heol Awst.

Dathlu

Byddwn yn nodi 300 mlwyddiant y capel gyda chyngerdd ar nos Sul 22 Mawrth am 6 o’r gloch yng nghwmni’r unawdydd Fflur Wyn, Côr Ysgol Bro Myrddin, ac Adran yr Urdd Ffynnon-ddrain. Llywydd y noson fydd Ifan Charles, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, ac un o blant yr eglwys. Croeso i bawb.

Er ein bod yn llawenhau wrth ddathlu 300 yr adeilad nodedig hwn, llawenydd mwy yw bod yr eglwys yn parhau i gwrdd yn ffyddlon oddi fewn i’r adeilad a bod yma gwmni clos a gweithgar. Rydym yn rhan o ofalaeth Caerfyrddin a Bancyfelin o dan weinidogaeth y Parchg Beti-Wyn James. Diolchwn am yr hyn a fu ac edrychwn ymlaen yn hyderus at yr hyn a ddaw eto.

Joan Thomas

 

 

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.