Llongyfarchiadau ... deugain mlynedd

Hogyn tair dinas
Bangor, Wrecsam a Chaerdydd! Dyna’r tair dinas sydd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd Alun Tudur, er bod gwreiddiau ei deulu, o ochr ei fam yn Nyffryn Madog, ac o ochr ei dad yn Eifionydd. Ym Mangor y ganwyd ac y magwyd Alun, fel y gwyddom ni – yr ieuengaf o bump o blant galluog Robert Tudur a Gwenllian Jones. Yn y ddinas hon y derbyniodd ei addysg gynradd, uwchradd a phrifysgol, a gadawodd y ddinas ddylanwad arhosol arno.
Yng ngwaelod Bangor yr oedd capel Pendref, ac yno o dan weinidogaeth y Parchg John Gwilym Jones y codwyd Alun, fel amryw o rai eraill, i’r weinidogaeth. A sonia Alun yn gyson am ddylanwad capel Pendref.

Wrecsam a Chaerdydd
Fe’i hordeiniwyd a’i sefydlu ym mis Medi 1986 yn Ebeneser, Wrecsam, a bu yno’n fawr iawn ei barch am naw mlynedd cyn symud i Ebeneser arall, Ebeneser, Caerdydd yn 1995, a bellach mae wedi treulio 31 o flynyddoedd yn y ddinas honno. Yn y ddwy ddinas gwelwyd gweinidogaeth y gair a’r sacramentau a’r weinidogaeth fugeiliol dyner ar waith ganddo.
Y mae f’adnabyddiaeth bersonol i o Alun yn mynd yn ôl ddegawdau bellach, ac ni fedraf ond diolch iddo am ei gyfeillgarwch a’i gefnogaeth. Fo oedd fy ngwas priodas i ac Elen, a minnau’n organydd yn ei briodas yntau a Vikki yn y Tabernacl, Llanrwst. A phan oedd Alun a Vikki yn byw yn Wrecsam, pur gyson oedd y teithio rhwng naill ai’r Brithdir neu Borth-y-Gest â Wrecsam, ac fel arall. Buom ar dro yn newid pulpudau hefyd.
Dim cywilydd
Mae Alun yn gadarn ei ffydd – does dim dwywaith am hynny. Gwyddom i gyd ymhle y mae’n sefyll, a chofiaf (syndod!) un o’i bregethau ar yr adnod gan Paul: ‘Nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith ...’ (Rhufeiniaid 1:16) A does gan Alun ddim owns o gywilydd o’r Efengyl, ac ar hyd y blynyddoedd fe’i traethodd yn ddi-ofn, yn ostyngedig a dealladwy. D’aiff neb o oedfa heb ddeall yr hyn y mae wedi’i ddweud, ac yn ychwanegol at hynny, ceir stôr da o hiwmor ganddo wrth draethu.
Mae hefyd yn ysgolhaig o’r radd flaenaf – yn hanesydd praff, a phan aiff ati i ddarlithio bydd y gwaith ymchwil yn dryloyw, a’r traethu eto’n hynod o gartrefol a gafaelgar. Rhwng hynny ac iaith goeth, does ryfedd iddo wneud cyfraniad sylweddol fel prif olygydd Y Tyst er 2009.
I’r sawl na ŵyr, mae’n gitarydd a lleisiwr da, ac yn y blynyddoedd a fu, buom yn canu deuawdau! Wir rŵan! Gofynnwch iddo am ein trosiad o un o ganeuon Triawd y Coleg – ‘Dau fyfyriwr ydym ni….’!
Ar ein rhan ni i gyd, diolch i ti Alun am dy weinidogaeth, a llongyfarchiadau ar ddathlu deugain mlynedd yn y weinidogaeth Gristnogol. Os cyfeiriais ar y dechrau at dair dinas, ystyria Alun mai ei fraint o a phawb arall ohonom ni sydd yn y gwaith ydi cyfeirio at ‘ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac adeiladydd iddi.’ (Hebreaid 11:10)
Bendith arnat ti, Vikki, Gwilym a Lowri a’u teuluoedd.
Iwan Llewelyn