Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw haelioni a rhoi. 

Mae'r rhain yn rhinweddau sydd yn greiddiol i'r ffydd Gristnogol ac yn hybu cymdeithas a bywyd yn ei gyflawnder.  

Mae'r ymgyrch yn pwysleisio pŵer cydweithio a chefnogaeth –pan fydd pobl yn rhoi o’u hamser, yn cynnig cyngor, anogaeth ac adnoddau, mae'n helpu cymdeithas gyfan. Pan fydd menywod yn ffynnu, rydyn ni i gyd yn ffynnu. 

Mae eleni yn 115 ers sefydlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac mae'r mudiad yn nodi'r garreg filltir fawr o weithredu ar y cyd dros gydraddoldeb rhywedd.

Ochr yn ochr â'r ymgyrch, mae arfarniad y Cenhedloedd Unedig yn galw am “Hawliau. Cyfiawnder. Gweithredu. I BOB Menyw a Merch”, gan annog camau pendant i gael gwared ar rwystrau i hawliau cyfartal a chyfiawnder cyfartal ar draws cymdeithasau.

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.