Bu'r Dr. Hefin Jones, sy'n aelod yn eglwys Minny Street, Caerdydd yn Hwngari yn ddiweddar i gynrychioli'r Undeb mewn cynhadledd fawr. 

Y tro cyntaf i mi fod yn Budapest, Hwngari oedd Awst 1995, bron 30 mlynedd union yn ôl. Roeddwn yno yn darlithio ym Mhrifysgol Economeg Budapest (erbyn hyn, Prifysgol Corvinus). Saif y Brifysgol ar lannau afon Donwy, gyferbyn i westy byd-enwog Gelert. Mae’n ddinas â’i hanes cyffrous yn ymestyn o gyfnod y Celtiaid (600 CC) trwy’r cyfnod Rhufeinig (fe’i hadnabyddid fel Aquincum) i’r Gwrthgodiad Hwngaraidd yn 1956, i’r presennol. Er 1995 bûm yn Budapest rhyw dair gwaith, y diweddaraf o’r ymweliadau hynny am dridiau ganol mis Mehefin eleni. Y tro hwn, cynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yng nghyfarfod Rhanbarth Ewrop o Gymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd (WCRC) oeddwn.

Heriau eglwysi Ewrop

Bu’n dridiau prysur! Ym Mhencadlys Eglwys Ddiwygiedig Hwngari (Magyarországi Református Egyház) roeddem yn cyfarfod – swyddfeydd a leolir yn hen ddinas Pest, ar lan ddwyreiniol afon Donwy. Clywsom lawer o newyddion o wahanol eglwysi diwygiedig Ewrop. Buom hefyd yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol ynghyd â thrafod beth yw ystyr tystiolaeth a sut mae tystiolaethu yn ein cyd-destun ni yn Ewrop. Amhosibl crynhoi popeth mewn erthygl fer.

Daeth yn amlwg mai un o’r heriau mawr a wyneba eglwysi Ewrop yw sut mae ymateb i ymfudo. Bu trafodaeth dreiddgar ar urddas dynol a thriniaeth mudwyr; onid yw pob person wedi’i greu ar ddelw Duw, gan haeddu urddas, lletygarwch ac amddiffyniad. Cyflwynodd eglwysi’r Almaen a’r Eidal ddadleuon cryf dros bolisïau lloches cyfiawn a dyngarol, gan ddatgan yn eglur eu gwrthwynebiadau ar reolau ffiniau, cadw dan glo annynol, a gwaharddiadau cymorth dyngarol. Trafodwyd integreiddio cymdeithasol a chydlyniant crefyddol a diwylliannol; materion deialog rhyng-ffydd, tensiynau ynghylch hunaniaeth grefyddol a helpu cynulleidfaoedd lleol i ymateb i senoffobia, hiliaeth, a pholareiddio gwleidyddol. Sylweddolwyd mor aml mae eglwysi’n gorfod cerdded llinell denau rhwng croesawu’r dieithryn a rheoli ofnau o fewn eu cynulleidfaoedd eu hunain.

Bu’r Esgob Sándor Zán Fábián o Eglwys Ddiwygiedig Gorllewin Wcráin yn rhannu ei brofiadau; ar-lein gan na chafodd sicrwydd ei bod yn ddiogel iddo deithio i Hwngari. Ar yr un llaw adroddodd am gynnydd aelodaeth eglwysig – derbyniodd bron 400 o bobl ifanc i’r eglwys ar Sul yr Esgyniad ac mae gwersylloedd haf yr eglwys eisoes yn orlawn. Ar y llaw arall, nododd y rheolau llym sydd bellach yn bodoli yn y wlad, yn cyfyngu ar fywydau cynifer, ac yn atgoffa’r genhedlaeth hŷn o fywyd yn ystod cyfnod Comiwnyddiaeth. Yn ddiweddar, deddfwyd nad yw bod yn Weinidog y Gair bellach yn ddigonol i osgoi derbyn gwŷs i ymuno â’r lluoedd arfog.

Anodd iawn bu’r drafodaeth am Israel a Gaza, yn arbennig gan iddi ddigwydd ar y diwrnod yn dilyn ymosodiadau awyr rhagataliol Israel ar gyfleusterau niwclear Iran, a’i safleoedd taflegrau ac arweinyddiaeth filwrol. Trwy dystiolaeth Llywydd WCRC, y Parchedig Najla Kassab, sy’n weinidog yn Beirut, cawsom ddisgrifiad byw o’r dioddefaint sy’n digwydd yn y rhanbarth. Clywsom hefyd oddi wrth Lywydd WCRC Ewrop, Martina Wasserloos (isod), am y bartneriaeth sydd wedi datblygu rhwng merched Eglwysi Diwygiedig Ewrop, trwy WCRC Ewrop, a Christnogion Israel, Gaza a gwledydd eraill y Dwyrain Canol.

Llygedyn o obaith 

Yng nghanol hyn i gyd, roedd yna lygedyn o obaith gyda bron pob gwlad a gynrychiolwyd yn y cyfarfod yn adrodd am gynnydd yn niddordeb yr ifanc yn y ffydd. Nifer o eglwysi wedi cynyddu mewn aelodaeth dros y 12 mis diwethaf, a gwledydd megis yr Almaen, yr Iseldiroedd, Portiwgal a Sweden yn sôn am y diwygiad tawel sy’n digwydd yn eu plith. Hwythau, fel ninnau yng ngwledydd Prydain yn gweld plannu eglwysi newydd. Cefais gyfle i rannu peth o’r hyn rydym ninnau yn ei weld yng ngwledydd Prydain gan gyfeirio at adroddiadau diweddaraf rhai o’n henwadau ac undebau, a sôn am yr hyn a welwn yn digwydd yn ein prifysgolion.

Dathlu 150 mlynedd 

Cyflwynwyd crynodeb hynod o ddiddorol gan y Parchedig Setri Nyomi, Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro WCRC, ar hanes Eciwmeniaeth Ddiwygiedig. Bu’n sôn am wreiddiau’r Cymundeb – o’i dechreuad yn 1875 pan sefydlwyd mewn cyfarfod yn Llundain, Cynghrair yr Eglwysi Diwygiedig ledled y Byd sy’n dal y System Bresbyteraidd (ARCWPS) ac yna 1891 pan sefydlwyd y Cyngor Cynulleidfaol Rhyngwladol (ICC). Yna, yn 1946, trefnwyd sefydlu Cyngor Eciwmenaidd Diwygiedig (REC) ac yn 1970, unodd yr ARCWPS â’r ICC i ffurfio Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd (WARC). Yn 2010, mewn Cyngor y cafodd Dr Geraint Tudur a minnau’r fraint o fod ynddo, yn Grand Rapids UDA, daeth WARC a REC ynghyd i ffurfio Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd (WCRC). Mae fy chwaer, Bethan, a minnau yn edrych ymlaen at gynrychioli’r Undeb mewn oedfa arbennig yn Llundain ar 12 Gorffennaf yn nodi 150 mlwyddiant sefydlu’r dechreuadau hyn.

Tystiolaethu 

Treuliwyd llawer o amser yn canolbwyntio ar dystiolaethu a sut i dystiolaethu – paratoad ar gyfer Cymanfa Gyffredinol WCRC yn Chiang Mai, Gwlad Thai ym mis Hydref, sydd â’r thema, ‘Dyfalbarhau mewn Tystiolaeth’, a lle bydd y Parchedig Beti-Wyn James a minnau yn cynrychioli’r Undeb. Efallai mai’r un peth a erys yn fy nghof o’r trafodaethau hyn yw’r cysyniad o ddiriaethu neu ‘goncrideiddio’ (concretisation) egwyddorion yr Efengyl. Byrdwn y drafodaeth oedd bod rhaid i’n heglwysi diriaethu egwyddorion ein ffydd, hynny yw, rhaid eu gwneud yn rhywbeth concrit, real a phenodol, rhaid cloddio pydewau newydd (2 Cronicl 26:10). Yr her yw ein bod mor aml yn cam-ddiriaethu, hynny yw, ymroi i fod yn ganolfannau elusen a chymuned, neu ganolfannau gwyrdd ond yn anghofio sail a ffynhonnell y dystiolaeth honno. Rhaid i mi gyfaddef i hyn gyffwrdd â mi gan fy mod yn gofidio’n aml pan glywaf sôn am eglwysi gwyrdd, mai mewn modd ‘seciwlar’ y disgrifir y gwaith yn hytrach na’i ddiffinio yng nghyd-destun Duw’r Creawdwr a Chynhaliwr Bywyd.

Terfynwyd ein trafodaethau a’n cyfarfod mewn Oedfa Gymun. Un o emynau’r gwasanaeth oedd ‘Von guten Mächten’ a ysgrifennwyd gan Dietrich Bonhoeffer ym 1944 tra roedd yn garcharor oherwydd ei wrthwynebiad i’r Natsïaid. Dyma ei destun diwinyddol olaf cyn iddo gael ei ddienyddio ar 9 Ebrill 1945. Ymunais am y tro cyntaf yng nghyfarfodydd WCRC Ewrop ’nôl yn 2017; bob tro byddaf yn dychwelyd ohonynt teimlaf i mi dderbyn bendith ac ysbrydoliaeth o fod ymysg ffrindiau ffydd sy’n wynebu rhychwant o heriau a gofidiau ond sy’n dal i dderbyn nawdd a nerth Cariad Duw. Diolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am agor y drws i mi.

Hefin Jones

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.