Emynau newydd yn gweld golau dydd yn Eisteddfod y Garreg Las eleni.

Dydd Llun y 3ydd o Awst ym Mhabell yr Eglwysi, Cytûn byddwn yn clywed cynnyrch 'Goleuni' am y tro cyntaf.  Albwm gwreiddiol yw Goleuni wedi ei greu yn arbennig ar gyfer ein heglwysi. Mae’r prosiect yn cyflwyno gwaith rhai o feirdd a llenorion mwyaf talentog Cymru gyda threfniannau cerddorol cyfoes a pherfformiadau ysbrydoledig gan rai o leisiau gorau Cymru.

Ysgrifennwyd geiriau’r caneuon gan feirdd o eglwysi Annibynnol fel y Parchg Casi Jones, y Prifardd Tudur Dylan Jones, a’r Parchg Emlyn Dole. Gosodwyd y geiriau ar alawon newydd gan y cerddor Christopher Davies, sydd hefyd yn gynhyrchydd ar y prosiect.

Meddai Christopher: ‘Emynau ar gyfer cynulleidfaoedd i’w canu mewn capeli yw’r rhain i gyd. Rydym ni’n ffodus i gael rhai o gerddorion proffesiynol gorau Cymru ar yr albwm gan gynnwys Caryl Parry Jones, Angharad Brinn, Steffan Rhys Williams a Betsan Daniel, mae cael y lleisiau cefndir hyn wir yn codi’r emynau i lefel uwch ac yn dod â’r elfen gynulleidfaol i’r caneuon.’

Ymhlith uchafbwyntiau’r albwm mae dwy gân wreiddiol gan Delwyn Siôn, arweinydd Eglwys Annibynol Bethlehem, Gwaelod-y-garth: ‘Trosom’ a ‘Martin Luther King Jnr’. Meddai Delwyn Siôn: ‘

Pan gefais y gwahoddiad i gyfrannu at yr albwm roedd hi’n ddiwrnod cofio Martin Luther King Jnr ac roeddwn wrth fy modd yn cael talu teyrnged i un o fy arwyr.’

Mae’r albwm yn gyfuniad o ganeuon myfyrgar ac addoliad, gyda phob cân wedi’u llunio i fod yn hawdd i’w canu gan gynulleidfaoedd ac yn addas ar gyfer oedfaon ac achlysuron eglwysig. Yn ogystal â’r deunydd newydd, mae’r ffefryn poblogaidd ‘Mor Fawr Wyt Ti’ hefyd yn cael lle yn y casgliad.

Bydd lansiad swyddogol yr albwm yn digwydd ym Mhabell yr Eglwysi ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro am 2pm ddydd Llun 3 Awst. Hefyd, cyhoeddir albwm o gyfeiliant yn unig yn fuan, fydd yn galluogi eglwysi a chynulleidfaoedd i ddefnyddio’r traciau sain neu fideos â geiriau ar sgrin i fedru canu’r emynau yn eu gwasanaethau a’u cyfarfodydd.

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.