Erthygl gan y Parchg Andew Lenny am grŵp trafod y Beibl, sy'n cyfarfod ym Mheniel, Sir Gar.
Ym mis Chwefror cawsom fendith wrth fyfyrio ar y geiriau, ‘Y mae cariad yn amyneddgar.’ (I Corinthiaid 13:4(a)) Defnyddiwn yr ymadrodd, ‘amynedd Job’. Na, ‘amynedd Duw’ yw’r safon. Sonia Morgan Rhys yn un o’i emynau am ‘rhyfedd amynedd Duw’. Mae’r gair a gyfieithir fel amynedd (makrothumeo) yn air disgrifiadol. Ei ystyr llythrennol yw, ‘cymryd amser hir i ferwi’. Meddyliwch am sosbaned o ddŵr yn berwi. Pa ffactorau sy’n penderfynu’r cyflymdra mae’r dŵr yn berwi? Maint y sosban? Efallai bod gan faint y sosban rhyw ychydig i wneud â’r cyflymder y mae’r dŵr yn berwi ond y prif ffactor yw dwyster y fflam. Mae dŵr yn berwi’n gyflym pan yw’r fflam yn uchel. Mae dŵr yn berwi’n araf pan yw’r fflam yn isel. Mae amynedd yn cadw’r fflam yn isel. Nid yw amynedd yn naïf. Nid yw amynedd yn anwybyddu camymddwyn. Mae’n cadw’r fflam yn isel. Mae’n sefyll. Mae’n gwrando. Mae’n araf i ferwi.
Cariad yw Duw
Dyma sut mae Duw yn ein trin ni. Pe buasai Duw yn dymuno gallai chwalu’r byd hwn yn ddarnau. Pe buasai’n ddyn buasai wedi gwneud hynny ers tro byd, buasai wedi colli ei amynedd yn llwyr gyda dynion yn anwybyddu ei ewyllys ac yn byw mewn gwrthryfel yn ei erbyn, ond ‘Cariad yw Duw’ ac y mae cariad yn amyneddgar. Yr hyn a wnaeth Duw yn ei faith amynedd oedd dyfod atom yn Iesu Grist i’n denu ni â’i gariad. ‘Nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub drwyddo ef’ (Ioan 3:17) – i wynebu cosb pechod yn ein lle a’n galw ni i edifeirwch, i ddilyn ôl ei draed. Yn Iesu Grist mae Duw yn estyn ei law i ni. Rhaid i ni’n bersonol ddod wyneb yn wyneb â Christ, a chydnabod wrth wneud hynny ein bod ni yn edrych ym myw llygaid Duw ei hun. Mae amynedd Iesu Grist yn dadlennu amynedd Duw. Mae amynedd a goddefgarwch yr Arglwydd Iesu yn amlwg iawn yn arbennig wrth iddo wynebu Calfaria. Roedd e’n amyneddgar gyda phobl oedd mor greulon tuag ato. Wedi ei gondemnio ar gam o gabledd gan y Sanhedrin, ‘dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd am ei wyneb, a’i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.’ (Marc 14:65). Yn y Praetoriwm rhoddodd y milwyr Rhufeinig glogyn porffor amdano a choron o ddrain ar ei ben. Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno a’i watwar.
Ymateb Iesu
Beth oedd ymateb yr Arglwydd Iesu i’r holl bobl yma oedd yn ei bryfocio? Gwylltio a melltithio? Nage. Dywed Pedr: ‘Pan fyddai’n cael ei ddifenwi, ni fyddai’n difenwi’n ôl; pan fyddai’n dioddef, ni fyddai’n bygwth, ond yn ei gyflwyno’i hun i’r Un sy’n barnu’n gyfiawn.’ (1 Pedr 2:23) Wynebodd elyniaeth, dioddefaint corfforol, meddyliol ac ysbrydol arswydus, amarch a’r gwaradwydd gwaethaf posibl gyda dycnwch a chadernid, heb daro nôl – mynnodd wynebu’r Groes fel oen diniwed yn mynd i’r lladdfa drosom ni. Gweddïa Paul y caiff Cristnogion drwy eu hymgysegriad i Grist gael eu meddiannu â’r un gras a’r dycnwch a’r amynedd oedd yn eiddo iddo ef. ‘Bydded i’r Arglwydd gyfeirio eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist!’ (2 Thesaloniaid 3:5)
Andrew Lenny
(Allan o Pigion Peniel, Rhif 25: Mawrth 2026)