Dim yn aml iawn bydd Dydd Gŵyl Dewi yn disgyn ar y Sul – ond roedd eleni!

Y tro diwetha’ ddigwyddodd hyn oedd yn 2020 – anodd yw anghofio’r flwyddyn honno. A bydd yn digwydd eto yn 2037 – rhag ofn eich bod yn pendroni am hynny!

Mae yna rhywbeth arbennig am gael dathlu dydd ein Nawdd Sant ar y Sul ac mewn oedfa. Fel arfer ar y Sul agosaf at y 1af y byddwn yn cynnal oedfa Gŵyl Dewi yn Salem. Ond eleni roedd cyfle i ddathlu ac addoli. Cawsom oedfa deulu hyfryd gyda’r plant wedi gwisgo mewn gwisg Gymreig neu fel aelodau o dîm rygbi neu bêl-droed Cymru. Roedd yn braf clywed y plant yn dweud am eu hoff fannau yng Nghymru a diolch i Elsi Mai am ein harwain mewn gweddi. Cawsom gyfle yn yr oedfa hefyd i gael cwis i’n helpu i ddysgu mwy am Dewi Sant a chofio geiriau ei bregeth enwog; ‘Byddwch lawen, Cedwch eich ffydd a’ch cred a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.’

Buom yn myfyrio hefyd ar adnodau o Lythyr cyntaf Paul at y Corinithiaid: ‘Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf. Gwnewch bopeth mewn cariad.’

Yn dilyn yr oedfa roedd cyfle am baned a sgwrs – a chacen gri, wrth gwrs yn y festri. 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.