Datganiad ar ran gofalaeth eglwysi Annibynnol Bwlch-y-groes; Gwernllwyn;

Hermon, Cynwyl Elfed; Seilo, Llangeler; Horeb a Seion, Llandysul.

Dyletswydd pob Cristion yw sicrhau bod Efengyl Iesu o Nasareth yn troi’n weithredoedd dros y da a’r cyfiawn, a sicrhau hedd a dedwyddwch dynion. 

Rydyn ni’n gweld ar ein sgriniau yn ddyddiol weithredu trais, lladd y diniwed a bomio ysbytai a llochesi gan gyflawni hil-laddiad cenedl y Palestiniaid.

Fe fu gŵr o Geredigion yn ei ddydd yn llafar a thaer dros sicrhau heddwch rhyngwladol, sef Henry Richard. Dywedodd fod Crist yn ei fywyd a’i waith yn llefaru dros gariad, tosturi a thrugaredd a bod rhyfela yn gwbl groes i Gristnogaeth:

Y mae sŵn rhyfel – llef yr utgyrn, rhu’r magnelau, cri aflafar bygwth a gwylltineb, taranau’r byddinoedd a’r gweiddi – yn cadw rhag clust y byd lef ddistaw fain Duw yn ei gariad a’i hedd, yn llefaru yng Nghrist.

Mae’r bomio, yr ymlid didrugaredd, y boen a’r dioddefaint a’r gwrthodiad i atal y rhyfela yn ingol i’n Gwaredwr. 

Rhaid i ni sy’n arddel Cristnogaeth godi ein llais yn erbyn y fath erchylltra sy’n bomio gwragedd a phlant a’r diniwed. Gwelsom ni oll famau yn wylo a thadau yn cludo cyrff eu plant bychain a phlant yn wylofain am eu rhieni. 

Rhaid i ni fel eglwysi godi ein llais yn enw Crist a galw ar bob arweinydd gwleidyddol a chrefyddol ym Mhrydain i weithredu ar unwaith er sicrhau cadoediad a lloches a chymorth i atal yr hil-laddiad yn Gaza. 

Aeth ein bardd cenedlaethol Waldo i garchar oherwydd iddo ymladd dros heddwch a gofyn i ni i gyd:

 

Pa werth na thry yn wawd

Pan laddo dyn ei frawd?

Pa sawl gormes ar Iesu

Yma yng nghnawd ei dlawd lu?

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.