Efengylau Mathew, Marc, Luc a Ioan i'w clywed yn nhafodiaith y wês wês!

Dydd Iau y 6ed o Awst ar Faes yr Eisteddfod byddwn yn lansio prosiect y Beder Ifingyl. Recordiad o'r Efengylau yn nhafodiaith Sir Benfro yw hyn, wedi ei drefnu gan Gyfundeb Sir Benfro, Llyfrau Llafar Cymdeithas y Beibl a Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales

Y diweddar Barchg Lyn Lewis Dafis fu'n gyfrifol am drosi'r testun mewn ffordd afaelgar a hwyliog, ac mae nifer o leisiau'r Sir wedi cyfrannu at y recordiad.

Bydd y recordiad a'r testun ar gael am ddim ar 'Ap Beibl' ac ar wefan YouVersion, sy'n cynnwys nifer fawr o gyfieithiadau o'r Beibl.

Dewch draw brynhawn dydd Iau 6 Awst am 5.30 i Babell y Cymdeithasau 2 i glywed y gwaith ac i gofio a dathlu cyfraniad arbennig Lyn.

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.