Gwilym Wyn sy'n trafod un o lefydd pwysicaf ein hanes, a'i ddyfodol
Wrth deithio o Gaerdydd i dreulio penwythnos yng Nghas-gwent, es i ar hyd yr hen ffordd hyfryd o Gasnewydd i Gas-gwent ac aros am ennyd i dynnu llun o gapel Llanfaches, sydd dan ofal yr United Reform Church ers tro byd bellach. Sylwais ar yr hysbysfwrdd bod oedfa Saesneg yno’r dydd canlynol, felly penderfynais mai braf fyddai ymuno â’r gynulleidfa yn Llanfaches ar y bore hwnnw (19 Hydref).
Fel nifer ohonoch, roeddwn yn ’nabod y Parchg Shem Morgan, fu’n fugail ar yr achos ymneilltuol yno am nifer o flynyddoedd. Cefais y fraint o arwain gwasanaeth yn yr wythdegau a threfnais daith seiclo o Gaerdydd i Lanfaches er budd elusen tua 1987. Dwi’n cofio, gyda gwerthfawrogiad bod Shem a’i gyd-aelodau wedi darparu lluniaeth blasus ar gyfer tua 50 o seiclwyr o eglwys Minny Street, Caerdydd.
Tri Chant a Hanner
Dwi’n siŵr bod nifer ohonoch yn cofio i ni ymweld â’r achos hynafol yn 1989 pan oedd yr eglwys yn dathlu 350 mlynedd ers cychwyn yr achos nôl yn nyddiau y Parchg William Wroth (1570-1642). Y Prifathro Dr Tudur Jones oedd y cennad ar gyfer y dathlu a’r coffâd a chafwyd peth o hanes yr achos gan Dr Geraint Tudur yn y pnawn. Mae ’na rhai lluniau o’r gweinidogion oedd yno yn llyfryn gwerthfawr y Parchg Shem H Morgan, Tabernacle, United Reformed Church, Llanvaches (1989 a 2011).
Y Dyfodol
Dros goffi, ar ôl yr oedfa, cefais ar ddeall, y cynhelir yr oedfa olaf ar ddydd Sul, 7 Rhagfyr, eleni. Yn yr oedfa bydd aelodau a ffrindiau yn dewis eu hoff garolau. Mae’r penderfyniad gan y gynulleidfa fach i ddirwyn yr achos i ben wedi bod yn un anodd iawn a sensitif, wrth reswm.
Ers fy ymweliad â’r achos ymneilltuol hynafol hwn ar y bore Sul, dwi wedi ymdeimlo ag awydd eithaf dwfn i holi os oedd modd i ni ymweld â’r capel cyn eu bod yn cau’r drysau yn derfynol ddechrau Rhagfyr. Mae’r prif arweinydd a’r wyth aelod sydd ar ôl yn yr eglwys yn fwy na pharod i’n croesawu.
Byddai modd cynnal oedfa ar Ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o’r oedfa i ddiolch i’r Arglwydd am gyfraniad eglwys Ymneilltuol hynaf Cymru i fywyd ein cenedl cysylltwch â Gwilym Wyn Roberts, serenagwill@btinternet.com neu 07968 463737, erbyn nos Sul, Tachwedd 23.
Dwi’n gobeithio bydd nifer dda ohonoch yn ymdeimlo â’r un awydd a dyhead i ymweld â’r capel yn Llanfaches ar y cyfle olaf hwn. Dyma englyn a gyfansoddwyd gan y Parchg Rhys Nicholas:-
Awel iach yn Llanfaches – a gafwyd
I gofio am ernes
William Wroth, a’i fflam o wres
Y tân fu’n newid hanes.
Gwilym Wyn