Sul Sbeshal ar lan y môr
Yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog y cynhaliwyd Sul Sbesial Cyfundeb Ceredigion unwaith eto eleni, ac fe gafwyd digwyddiad bywiog a chofiadwy iawn a hynny ar y Sul olaf o fis Medi sef yr 28ain. Yn y neuadd chwaraeon y cynhaliwyd gwasanaethau addolgar a hwyliog y dydd. Roedd oedfa’r plant o dan lywyddiaeth Karine Davies, ac roedd y Parchg Carys Ann yng ngofal y ‘Power Point’. Golygai hynny y gellid darllen geiriau’r emynau yn rhwydd ac fe ddangoswyd ffilm am yr hinsawdd a baratowyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Roedd band yn arwain yr addoliad a chafwyd cymorth Rhian Evans, Capel Glynarthen wrth yr allweddellau, Angharad John a Dafydd y Drymiwr o Gapel Pencae, Llanarth.
Cyfraniadau
Cafwyd llwyddiant ysgubol eleni eto wrth i Ysgolion Sul y Cyfundeb ddod at ei gilydd i addoli a chanu mawl i’r Arglwydd. Yr ysgolion Sul gymerodd ran yn y gwasanaeth oedd Y Tabernacl, Pencader; Glynarthen; Llwyncelyn; Pencae, Llannarth a Pisgah, Talgarreg. Wedi’r gwasanaeth aeth y plant i fwynhau holl atyniadau’r gwersyll. Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad mawr am y cymorth ariannol a dderbyniwyd gan Bwyllgor Cymraeg Dydd Gweddi’r Byd a Chyfundeb Ceredigion. Tynnwyd lluniau o wasanaeth y plant a’u gweithgareddau gan Barry Adams, drwy ganiatâd y rhieni.

Oedolion
Yn syth ar ôl oedfa’r plant cafwyd gwasanaeth pellach ar gyfer yr oedolion. Cyflwynwyd neges neilltuol gan Ffred Ffransis, ac fe gyfeiliodd Neville Evans, Capel Neuaddlwyd i’r emynau ar yr allweddell. Karine Davies oedd yn llywyddu a’r Parchg Carys Ann yng ngofal y ‘Power Point’. I gloi’r gweithgareddau fe gafwyd te a chyfle i sgwrsio cyn bod y plant yn ymuno gyda ni. Diolch i bawb fu’n rhan o’r trefnu fel ein bod yn cael Sul Sbesial eithriadol o lwyddiannus unwaith eto eleni. Gweddïwn am barhad ein hysgolion Sul er mwyn sicrhau disgyblion i’r Arglwydd Iesu Grist i’r dyfodol.
Carys Ann
