Bu’n gyfnod prysur yn eglwys Ebeneser Llanfairpwllgwyngyll, dyma beth o’r hanes.

Ffarwel – am y tro

Fore Sul yng Ngorffennaf eleni, cawsom fel eglwys gyfle i ddweud ffarwel am y tro ag un o’n haelodau ffyddlonaf ac anwylaf, Miss Wendy Davies. Mae Wendy wedi penderfynu symud i fyw i Ffair-fach, Llandeilo er mwyn bod yn agosach i’w theulu. Daeth Wendy atom fel aelod rhai blynyddoedd yn ôl a bu’n fwy na pharod i gyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau’r capel.

Wedi’r oedfa, daeth pawb ynghyd i’r festri am baned (a dishgled i Wendy) a chawsom gyfle i glywed gair o ffarwel gan un o ddiaconiaid y capel, Derec Owen. Diolchodd yntau ar ran pawb am gyfeillgarwch a chyfraniad Wendy dros y blynyddoedd gan ein hatgoffa ei bod wedi gadael y rhan fwyaf o’i llyfrgell bersonol i ni fel capel. Yna, fe gafodd Wendy gyfle i ddweud gair ac fe ddwedodd ei bod yn trysori’r blynyddoedd y bu gyda ni a bod ganddi atgofion lu am achlysuron mawr a mân, rhai llawen a rhai dwys a diolchodd i bawb am eu cwmnïaeth a’n gofal ohoni.

Dymunwn bob bendith i Wendy yn ei chartref newydd.

Te pnawn

Ddydd Gwener, 14 Awst, cynhaliwyd te pnawn yn festri Ebeneser, er budd ymchwil cancr y fron (Breast Cancer Now).

Ysbrydoliaeth Eluned Mason, un o aelodau Ebeneser, oedd cynnal y te yn wreiddiol ond yn fuan roedd nifer o ffrindiau, teulu a chyd-aelodau o’r capel yn rhan o’r bwrlwm. 

Gyda nifer o’r criw yn hen gyfarwydd â chegin y festri, daethpwyd ynghyd i gynnal te gwerth chweil mewn awyrgylch braf a hwyliog. Roedd y festri dan ei sang a chyda criw cerdded lleol yn taro i mewn am 11:00, bu’r criw gweini a golchi llestri wrthi’n ddi-stop tan ddiwedd y pnawn.

Cafwyd hwb dda i gychwyn y casglu gyda rhodd o £500 gan y capel, arian a gasglwyd trwy gynnal cyngherddau dros dymor y gaeaf y llynedd ac a glustnodwyd i’w drosglwyddo i elusen deilwng. Cafwyd rhoddion hefyd trwy wefan Justgiving.com, a da yw cael dweud fod dros £2,100 wedi ei gasglu erbyn hyn i’r achos teilwng hwn.

Dymuna Eluned a’i ffrindiau ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at yr achlysur arbennig yma.

 

Irfon Morris

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.