Taith llawn hwyl a phwmpenni

Mwynhaodd dros 180 o blant a rhieni ysgolion Sul Gofalaeth Bro Nant Conwy ddiwrnod gwych o hwyl yr hydref yn fferm Monarafon ar gyfer trip blynyddol yr ysgolion Sul. Roedd y diwrnod yn llawn cyffro, chwerthin, a digonedd o bwmpenni wrth i’r plant archwilio’r fferm, cymryd rhan mewn gweithgareddau tymhorol, a dathlu ysbryd y gymuned. Roedd yn galonogol gweld cymaint o deuluoedd yn dod ynghyd i wneud y diwrnod yn un arbennig. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa o’r llawenydd sy’n deillio o gymuned, cysylltiad, a phrofiadau a rennir o fewn gweithgareddau’r Eglwys. Diolch enfawr i fferm Monarafon ac i bawb a helpodd i drefnu’r daith – rydym eisoes yn edrych ymlaen at yr antur nesaf!

Diwrnod Hwyl

Ar ddydd Sadwrn, 11 Tachwedd cynhaliwyd Diwrnod Hwyl ar gyfer plant ysgolion Sul, Henaduriaeth Conwy a Dyfrdwy. Trefnwyd y diwrnod gan y Parchg Owain Davies ar ran Pwyllgor Plant ac Ieuenctid yr Henaduriaeth. Daeth nifer dda o blant blwyddyn ysgol 3 i 6 yno gan gynnwys plant ysgolion Sul Undebol Hebron, o ofalaeth y Parchg Helen Wyn Jones ac ysgolion Sul Cylch Llanrwst o ofalaeth y Parchg Owain Davies. Dechreuodd y diwrnod wrth ddal y bws o Glasdir, Llanrwst i Goleg y Bala. Cafwyd croeso cynnes a byrlymus iawn gan aelodau staff y coleg ynghyd â’u harweinydd a’r gweithiwr ieuenctid, Siôn Morris. Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gyda neges yr Efengyl yn ganolbwynt i’r cyfan. Cafwyd storïau o’r Beibl gan gynnwys hanes y dyn cyfoethog, chwaraeon, crefft a ffynnon siocled, a’r cyfan am ddim. Mae ein diolch i’r Henaduriaeth am ariannu’r diwrnod. Cafwyd cinio blasus a llawer mwy i’w fwyta! Roedd yn gyfle gwych i’r plant gymysgu a dod i adnabod ei gilydd. Yn ystod y dydd roedd y plant yn dditectifs yn chwilio am gliwiau i ddod o hyd i adnod Ioan 3:16 o’r Beibl. Dangoswyd fideo o Goleg y Bala i’r plant er mwyn codi ymwybyddiaeth ac awydd i’r plant ddod yno i aros a derbyn mwy o brofiadau arbennig. Roedd yn amlwg bod y plant wedi mwynhau a dysgu mwy am gynnwys y Beibl, a hyn mewn ffordd hawdd iddynt ddeall. Y gobaith yw bod hadau wedi eu hau yn y plant ar gyfer y dyfodol a’r ôl iddynt dderbyn diwrnod bendithiol iawn yng nghwmni ei gilydd. Mae ein diolch yn fawr i staff y coleg am eu croeso ac am drefnu’r holl weithgareddau.

Clwb CIC Hadau Bach

Braf oedd gweld gymaint o deuluoedd yn mynychu ein Clwb CIC Hadau Bach cyntaf bore dydd Sadwrn 22 Tachwedd. Mae Gofalaeth Bro Nant Conwy wedi cychwyn y sesiwn newydd yma i blant ifanc a’u rhieni er mwyn rhoi cyfle iddynt gymdeithasu, chwarae a chanu gydag Alaw Tecwyn Sion. Cafodd y plant lawer o hwyl yn chwarae, lliwio a chanu. Diolch arbennig i Alaw am arwain y canu hwyliog. Bydd y sesiwn yma yn rhedeg unwaith y mis yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy. Edrychwn ymlaen at weld pawb unwaith eto yn y flwyddyn newydd.

Diolchgarwch

Cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn eglwys Hafan Ifan ar 9 Tachwedd a oedd o dan ofal Ffermwyr Ifanc Rowen, Llanrwst ac Ysbyty Ifan. Mae gwasanaeth o ddiolchgarwch fel hwn yn adlewyrchu cryfder cymunedol ac undod rhwng clybiau ffermwyr ifanc yr ardal. Diolch i arweinwyr y clybiau am eu cymorth gyda’r trefnu ac i’r bobl ifanc am eu hymroddiad. Diolch arbennig i Elin Angharad a fu’n cyfeilio yn ystod y noson.

Mae’n hyfryd gweld pobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb, yn rhannu eu doniau, ac yn creu awyrgylch cartrefol sy’n llawn bendith.

 

Owain Davies

 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.