Gŵyl Ddewi a chroeso i aelodau newydd
Daeth dros ugain o deulu Libanus y Pwll ynghyd i ddathlu gŵyl ein nawddsant fore Sul, 5 Mawrth. Roedd y capel wedi’i addurno’n brydferth a’r cennin Pedr yn harddu’r adeilad ar fore braf o wanwyn.
Cafwyd oedfa fendithiol iawn yng ngofal yr aelodau ac roedd yn bleser gwrando ar nifer o aelodau yn cyfrannu tuag at yr oedfa a baratowyd gan Gwenda Davies. Roedd gweld y plant – Nel a Nansi Jones a Ffion a Mari Thomas yn darllen a chanu yn codi’r galon.
Wedi’r oedfa, trefnwyd te a theisennau yn y festri. Diolch arbennig i Anne Hussey a Gwenda Davies am addurno’r adeilad a pharatoi’r lluniaeth. Bore hyfryd iawn.
Aelodau newydd
Hefyd, ddiwedd y llynedd, derbyniwyd dau aelod newydd sef Beryl a John Griffiths gan y Parchedig Meirion Evans. Bu’r ddau’n mynychu’r gwasanaethau yn hynod o ffyddlon am rai blynyddoedd a braf oedd cael eu croesawu yn aelodau cyflawn yn eglwys Libanus. Wedi’r oedfa mwynhawyd cwpanaid o de a sgwrs yn y festri.