Cawsom noson arbennig yn Horeb ar 13 Tachwedd ac roedd y capel yn llawn!

Dathlu hanner canmlwyddiant oeddem. Nid hanner can mlynedd ers dechreuodd yr achos, ond hanner canmlwyddiant y pedwerydd capel Horeb ar yr un safle.
Dechreuodd yr achos yn 1837 gyda’r capel cyntaf yn cael ei adeiladu yn 1839. Adeiladwyd yr ail gapel yn 1853 a’r trydydd yn 1909. Ar ôl tân trychinebus yn 1973, roedd yr aelodau yn benderfynol i greu capel newydd, capel modern a chapel croesawgar i bawb yn y gymuned.

Agorwyd y pedwerydd capel ar 13 Tachwedd 1975 am 6.30 pm. Ar y pryd, roedd Horeb yn awyddus i ofyn i’r Parchg Allan Pickard, a oedd wedi’i ordeinio yn Horeb, i ddod nôl atom ac arwain y gwasanaeth agoriadol arbennig. Roedd yn anrhydedd anhygoel i allu gofyn iddo ddod unwaith eto, ar ôl 55 mlynedd o gyfeillgarwch, i arwain ein dathliad hanner can mlynedd, hefyd ar 13 Tachwedd am 6.30 pm.
Hoffem ddweud diolch o galon wrth y Parch Allan Pickard, Caerdydd; y Parchg Owain Llŷr Evans, Llywydd yr Undeb; a Sian Meinir, Cadeirydd Cyfundeb De-ddwyrain Cymru. Rhoesant eu cefnogaeth i ni fel cynulleidfa ar y noson ac wrth ddathlu gyda ni ar ôl y gwasanaeth gyda choffi a chacen.
Roedd cannoedd o hen ffotograffau ar y sgrin fawr yn ogystal â ffilm arbennig o’r gwasanaeth agoriadol o’r saithdegau. Roedd yn eEosiynol iawn i weld wynebau annwyl ein cyn-aelodau a theuluoedd. Er ein bod wedi colli llawer o ddogfennau yn y tân yn 1973, roedd digon o wybodaeth, ffotos a chynlluniau gwreiddiol i wneud arddangosfa yn y cyntedd hefyd.
Diolch i bawb sydd wedi joio mas draw. Noson i’w chofio, yn wir!
Judith Mulry