Nos Fercher 24 Medi, yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin fe gynhaliwyd oedfa arbennig i gomisiynu ein Hysgrifennydd Cyffredinol newydd, Elinor Wyn Reynolds.

Wedi ei chodi yn yr eglwys, roedd Y Priordy yn addoldy priodol i groesawu'r Ysgrifennydd Cyffredinol i'r gwaith, gan ofyn am gymorth a bendith Duw arni.  Llywydd yr Undeb, y Parchg Owain Llŷr Evans agorodd y noson gyda chynulleidfa deilwng o ffrindiau a theulu Elinor, aelodau cefnogol y Priordy a phobl o eglwysi ac enwadau amrwyiol yn bresennol.

Traddodwyd pregeth rymus gan y Parchg Dyfrig Rees, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, a bu cyfraniadau a gweddïau gan y Parchg Dewi Myrddin Hughes, Parchg Beti-Wyn James, Alun Charles ar ran eglwys y Priordy a Jean Lewis, Cadeirydd y Cyngor.

Diolch gyda chalon lawn

Meddai Elinor ''Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb a ddaeth ynghyd i’r gwasanaeth comisiwn yn y Priordy, Caerfyrddin ar nos Fercher 24 Medi i ddymuno’n dda i mi ar gychwyn fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Cyffredinol. Roedd hi’n noson ddyrchafol a llawen, roeddwn i’n llawn deimlo’r fraint neithiwr.''

''Diolch mawr i bawb a gymerodd ran a’i wneud yn ddigwyddiad i’w gofio, ac i Owain Llŷr am lywyddu mor ddeheuig. Diolch hefyd i bawb fu’n gwylio ar y ffrwd fyw, roedd eich presenoldeb rhithiol yn bwysig'' 

''I aralleirio geiriau Alun Charles, cyn ysgrifennydd eglwys y Priordy ar y noson, rydyn ni gyd yn gwybod faint o’r gloch yw hi arnom heddiw yng Nghymru, gadewch i ni fwrw iddi gyda’n gilydd i ddangos mai cariad yw Duw ac mai ni yw cyfryngau’r cariad hwnnw yn y byd.''

I'r sawl na fu'n bresennol mae modd gwylio'r ffrwd fyw isod:

 

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.