Y gantores werin a’r delynores, Gwenan Gibbard oedd arweinydd Sul y Cyfundeb eleni ar 28 Medi.

Cyfaddefodd nad oedd Cwm Tawe yn gyfarwydd iddi, er iddi ymweld â Phontardawe flynyddoedd maith yn ôl gyda chyfrol Gomer M. Roberts Crwydro Blaenau Morgannwg yn gwmni iddi. Cofiai, yn glir, gweld cartref Gwenallt ar sgwâr y dref.

Telynores

Cyflwynwyd y rhannau arweiniol gan Rachel Davies a’r Parchg Gareth Morgan Jones, gweinidog Capel yr Alltwen sy’n dathlu 60 mlynedd yn y weinidogaeth ym mis Medi, eleni. Croesawyd y gynulleidfa hardd i’r oedfa ac wedi cyflwyno Gwenan gan y Parchg Rhys Locke, is-gadeirydd y Gyfundeb, rhoddwyd y llwyfan iddi rannu emynau cyfarwydd gyda’u tonau  anghyfarwydd. Mae Gwenan yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru ac i chi sy'n dilyn cerddoriaeth, yna mae'n enw a llais cyfarwydd. Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant. Mae ei halbwm diweddaraf, ‘Hen Ganeuon Newydd’, yn canolbwyntio ar ganeuon gwerin ei hardal enedigol, Llŷn ac Eifionydd, ac yn cyd-fynd â’i hymchwil doethurol diweddar yn y maes hwnnw.

Cefndir

Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor a chwblhau gradd meistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth ymlaen i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yna dychwelodd i Bwllheli. Mae'n gweithio gyda chwmni recordio Sain, yn arwain Côr yr Heli ac yn perfformio’n helaeth fel artist unigol a gyda’r grŵp gwerin ‘Pedair’ sydd mor boblogaidd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Merch i’r diweddar Barchg Hedley Gibbard yw Gwenan ac mae’n aelod yng nghapel Penlan, Pwllheli.

O’r Seren i Stella

Dechreuodd ei chyflwyniad gydag emyn i blant o Ganiedydd yr Ifanc, sef ‘Pe bawn i yn seren fach loyw lân’ a osododd naws hyfryd. Yna canodd ‘Arglwydd Iesu dysg i’m gerdded’ Elfed ac yna emyn gobeithiol ‘Bydd yn wrol, paid â llithro’ Ben Davies, Pant-teg. Mae gan Gwenan gysylltiad teuluol â’r cerddor Dr Caradoc Roberts a chawsom flas ar emyn Elfed ar y dôn Stella.

“Yn dawel nos ymdaena, dros fryniau Galilea

a’r glas aflonydd lyn, a’r Iesu’n dringo weithian

Yn araf wrtho’i hunan i borth y nef ar ben y bryn”.

Diddorol oedd deall mai enw merch y cerddor o Rosllannerchrugog oedd Stella.

Rhyfel yr Oen

Canllaw i’r Cristion, bid siŵr, yw cyfieithiad hyfryd y Prifardd John Gwilym Jones ‘Mesur Dyn’ o gerdd wreiddiol ‘The measure of man’. ‘Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan Dduw, nid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth fyw’. Canwyd ar y dôn ‘Alarch’. Coffawyd Meleri Mair yn y datganiad o un o ganeuon hyfryd Y Diliau o’r 60au, ‘Gall dwy law’: geiriau syml ac effeithiol sydd mor berthnasol i’n cyfnod erchyll o ryfela heddiw. Rhaid oedd cynnwys emyn Ann Griffiths ‘Er mai cwbl groes i natur yw fy llwybr yn y byd’ sy’n gyfarwydd i Gôr yr Heli o dan arweiniad Gwenan. Cydganwyd emyn Eifion Wyn ‘Efengyl tangnefedd o rhed dros y byd’ gan bwysleisio ‘.... na chariad at ryfel ond rhyfel yr Oen’.

Cân y clo

Daeth yr oedfa gofiadwy i’w therfyn gydag emyn Gwyrosydd ‘Calon lân’ ar y dôn ‘Deio bach’, sy’n ffefryn i Gymry alltud Patagonia. Bydd Gwenan yn teithio yno, ym mis Tachwedd eleni, yng nghwmni gweddill Pedair ac mae’n siŵr y cânt eu cyfareddu gan ei llais unigryw a’i dawn ar y tannau a’i chyflwyno hynaws a diymhongar. Diolchwyd iddi am ei hymweliad gan y Parchg Rhys Locke ac i D. Huw Rees am ei gyfeilio meistrolgar ar organ soniarus yr Alltwen. Bu cymdeithasu a thrafod brwd yn y festri wedi’r oedfa, a llawn oedd y byrddau gan ddanteithion blasus gwragedd hawddgar yr Alltwen, a diolch iddynt hwythau am eu croeso.

 

Gareth Richards

Ysgrifennydd Cyfundeb Gorllewin Morgannwg

 

 

 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.