Roedd nos Wener, 12 Ebrill 2024, yn noson arbennig iawn yng nghapel Heol Awst, Caerfyrddin. 

Yn ogystal â bod yn Oedfa Sefydlu’r Parchg Beti-Wyn James yn weinidog ar eglwysi Elim Ffynnon-ddrain a Heol Awst, crëwyd gofalaeth newydd, sef gofalaeth Caerfyrddin a Bancyfelin, wrth uno gofalaeth y Priordy, Cana, a Bancyfelin, gyda gofalaeth Heol Awst ac Elim. Gan ei bod yn noson bwysig, nid yn unig i’r eglwysi ac i Beti-Wyn, ond i dref Caerfyrddin hefyd, pleser oedd cael presenoldeb maer a maeres y dref, ac Uchel Siryf Dyfed a’i chymar, y mae Beti-Wyn yn gaplan iddynt.

Yr oedfa

Llywyddwyd yr oedfa gan y Parchg Tom Defis, cadeirydd gofalaeth Elim a Heol Awst. Wrth groesawu pawb, mynegodd y golled a gafwyd wrth inni gofio am y diweddar Roland Jeremy, ysgrifennydd Elim, a fu’n rhan o’r trafodaethau, ac y claddwyd ei lwch yn gynharach yn y dydd. Organydd y noson oedd John Evans, un o gyfeilyddion Elim. Y Parchg Catrin Ann, Pentre Morgan, oedd yn gyfrifol am yr Alwad i Addoli, a’r Parchg Sian Elin Thomas, Crymych, a ddarllenodd o’r Gair cyn i’r Parchg Dewi Myrddin Hughes, Clydach offrymu gair o weddi. Joan Thomas, cofnodydd pwyllgor diaconiaid gofalaeth Elim a Heol Awst, a roddodd hanes yr alwad gan sôn am gyfanrif yr aelodaeth sydd bellach dros 500, a diolch i’r pregethwyr a fu mor barod i dderbyn ein gwahoddiad i ddod atom i gynnal oedfaon pan oeddem yn ddiweinidog.

Y sefydlu

Yn gyfrifol am y sefydlu, y rhan hanfodol o’r oedfa, oedd Llywydd y noson. Wrth i Beti-Wyn ymateb diolchodd i bawb am bob cymorth, ac am y fraint o gael arwain eglwysi’r Priordy, Cana, a Bancyfelin, am ddwy flynedd ar hugain. Ymhyfrydai bod yr aelodau wedi caniatáu iddi ddod i nabod eglwysi’r ardal drwy eu gwasanaethu yn ôl y galw dros y blynyddoedd diwethaf a agorodd y drws at drafodaethau. Ffrwyth y trafodaethau hynny oedd yr achlysur arbennig hwn o sefydlu gofalaeth newydd.

Cyflwyno

Cyflwynwyd yr Emyn Urddo o waith y diweddar Barchg O. T. Evans gan Natalie Morgan, Aberteifi, cyn i Sulwyn Thomas, cadeirydd gofalaeth y Priordy, Cana, a Bancyfelin, gyflwyno Beti-Wyn ar ran yr ofalaeth honno. Soniodd am y cydweithio a fu gynt ar wahanol adegau, a sut y datblygodd y berthynas ymhellach, gan arwain yn ddigon naturiol at lunio gofalaeth newydd. Estynnodd Bet Jones, Elim, groeso ar gân ar ran Elim a Heol Awst, gan gyfeirio, mewn arddull hwyliog, at y gwahanol agweddau o fywyd Beti-Wyn. Cafwyd eitem ddoniol ar ffurf rap gan blant bach ysgol Sul Elim, ac ymunodd Beti-Wyn yn yr hwyl gan rapio wrth gyflwyno rhodd fechan iddynt i gyd. Estynnwyd deheulaw cymdeithas i Beti-Wyn gan ysgrifenyddion y pum eglwys, cyn iddynt gyfarch ei gilydd fel arwydd bod cwlwm newydd yn dechrau rhwng y bum eglwys. Y Parchg Guto Llywelyn a gyflwynodd weddi fer dros yr ofalaeth newydd. 

Cyfarchion

Yn dilyn hyn cafwyd cyfarchion gan Jean Lewis, is-gadeirydd Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin. Soniodd mor braf yw gweld eglwysi yn gwahodd gweinidog newydd atynt, gan obeithio y bydd pawb yn ofalgar ohoni. Wrth i’r Parchg Emyr Williams, cadeirydd Cwrdd Dosbarth Myrddin, estyn cyfarchion ar ran y Cwrdd Dosbarth, cyfeiriodd yn ysgafn at y chwythwm o wynt a ddaeth i’w plith bron i chwarter canrif yn ôl, ac un a fu’n weithgar gyda hwy byth oddi ar hynny.

Agor y Gair

Pregethwyd gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Llandysul, ar adnod 20 o’r drydedd bennod o Lythyr Paul at y Philipiaid: ‘Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist.’ Pwysleisiai Paul mai Iesu Grist yw’r Gwaredwr, y gwerinwr o Nasareth, a groeshoeliwyd, ac a atgyfododd ar y trydydd dydd. I ddwyn noson hanesyddol a llawen i ben, gyda phawb yn llawn brwdfrydedd wrth edrych tua’r dyfodol, canwyd yr emyn olaf, a gwneud casgliad tuag at apêl Ffynhonnau Byw Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Chymorth Cristnogol. 

Swpera

Yna aeth y gynulleidfa o tua dau gant i’r festri i fwynhau swper helaeth, cymdeithasu, a gwylio Beti-Wyn yn torri’r gacen hardd, bwrpasol, o waith Nia Evans, Elim. Yn rhan o addurniadau’r gacen roedd lluniau pum capel yr ofalaeth, y car coch a’r ffôn bach, gyda hi ei hunan, ei gliniadur, a’r Beibl agored, ar y top.

Bu’r noson yn gychwyn ardderchog i’r bennod newydd hon yn hanes y dystiolaeth Gristnogol Gymraeg yng Nghaerfyrddin a Bancyfelin. Diolchwn i Dduw am y cyfle hwn a daeth i’n rhan a gweddïwn am Ei fendith ar waith yr ofalaeth.

Joan Thomas

 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.