Argraffiadau Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Elinor Wyn Reynolds yn dilyn cynhadledd i Ysgrifennyddion Cyffredinol CWM yn ddiweddar
Felly, rwy newydd ddod nôl o gynhadledd i Ysgrifenyddion Cyffredinol CWM (Cyngor Cenhadaeth Fyd-eang – Council for World Mission) a gynhaliwyd yn Abaty Missenden, Great Missenden y tu allan i Lundain. Roeddwn i yng nghwmni ysgrifenyddion o 36 eglwys o bob cwr o’r byd. Dychmygwch! Roedd pobl wedi teithio o’u gwledydd er mwyn dod ynghyd fel chwiorydd a brodyr i’n gilydd.
Amlieithog
Fe hoffen i rannu gyda chi fy mod i wedi teimlo’n emosiynol wrth i ni gael cymun gyda’n gilydd a phawb yn dweud yr un geiriau gyda’i gilydd yn Saesneg. Rydyn ni fel Cymry’n poeni am ein hiaith am fod angen poeni amdani, oni bai ein bod ni’n siarad Cymraeg mae yna berygl y bydd hi’n diflannu, y mae’n gyfnod o ddifodiant ieithyddol arnom. Ond yn y cymun hwnnw roedd bron pob un ohonom yn cymuno drwy gyfrwng ein hail (neu drydedd) iaith, ac roedd hynny’n beth prydferth iawn. Pawb yn rhoi eu gwahaniaethau o’r neilltu ac yn dod ynghyd. A dyma ni, o Gymru fach, yn rhan gyfartal o gymuned y byd.

Ni yw CWM
Y mae CWM yn sefydliad sy’n debyg iawn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Dychmygwch hynny eto! Rydyn ni, enwad gweddol fychan, yn debyg i sefydliad mawr byd-eang. Y mae gan yr Undeb swyddfa (Tŷ John Penri) sy’n cefnogi’r eglwysi unigol (chi) i fod yr eglwysi gorau y medrwch chi fod, ond chi sy’n penderfynu sut mae eich eglwysi chi yn gwneud eu gwaith yn eich cymunedau, eich eglwys chi yw hi, a chi yn eich tro sy’n gwneud yr Undeb yn beth ydyw. Ac mae CWM yn nodi mai ni (yr enwadau) yw CWM. Roeddwn i’n falch i glywed hynny, ac roeddwn i’n falch i ddeall fod gennym bethau sylfaenol yn gyffredin â’n gilydd.
Cyfeillgarwch
Nawr, rydw i’n dod at hyn o fan o anwybodaeth gymharol, fel rhywun sy’n newydd yn ei swydd. Roeddwn i’n lled gyfarwydd ag CWM ond heb ddeall yr holl waith y mae CWM yn ei gyflawni er mwyn gwneud gwahaniaeth real a go iawn mewn cymunedau ar draws y byd, gan gynnwys yn ein cymunedau ni. Ie, mae CWM yn gwneud gwahaniaeth i ninnau hefyd. Achos maen nhw’n ein hannog i rannu, i gynnal deialog neu sgwrs â gweddill y byd a bod yn rhan o rywbeth mwy. Mae gan CWM raglenni sy’n gweithio i wella anghyfiawnder, anghyfartaledd, a chreu bywyd yn ei gyflawnder, i bawb ym mhob man. Yr hyn a darodd fi hefyd oedd y cyfeillgarwch real oedd rhwng y gwledydd i gyd ar lefel hollol gyfartal yn y gynhadledd, mae gan bawb ei stori a phob stori yn werth ei chlywed. Amen i hynny ddyweda i.
Dyrchafol
Yn ogystal â’r tridiau o astudiaethau Beiblaidd, y darlithoedd, y cyflwyniadau a’r cyfleoedd i rannu syniadau a phrofiadau a chreu cyfeillgarwch; ar y diwrnod olaf cawson ni daith i ganol Llundain a’r cyfle i addoli gyda chynulleidfa eglwys Annibynnol Capel y Boro’, Southwark. Ac am brofiad dyrchafol, dod ynghyd ac addoli yn Gymraeg a Saesneg gyda’n cyfeillion o bob cwr. Roedd y croeso’n gynnes a’r canu’n wych. Yna, fe gawsom wahoddiad i’r festri er mwyn cyd-fwyta a rhannu cwmni’n gilydd. Rwy’n credu fod bron i 80 ohonom yno, ac roedd y lle dan-ei-sang. Diolch i chi Capel y Boro’ am ddangos y gorau o Gymru i’r byd, a hynny ynghanol Llundain.
Yr ydym ni’n wlad fechan ond wir, mae’n llesol i ni gofio ein bod ni’n rhan o deulu Duw drwy’r byd.
Elinor Wyn Reynolds