Oes croeso i bobl anabl yn eich eglwys chi?
Tuedd rhywun yw ateb yn reddfol ‘Oes, siŵr! Mae croeso i bawb!’ Ond efallai nad yw hi mor syml â hynny. Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae anabledd yn ‘amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a thymor hir ar allu rhywun i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.’ Mae hynny’n cwmpasu llawer iawn o gyflyrau sy’n effeithio ar bobl mewn llu o wahanol ffyrdd ac i wahanol raddau. Gallai gostio miloedd lawer o bunnoedd i wneud capel yn addas ar gyfer pob anabledd posibl ac mae’n siŵr na fyddai neb yn disgwyl i eglwys gyffredin osod lifft, dyweder, rhag ofn y byddai ar rywun ei angen ryw dro yn y dyfodol. Ond gall eglwysi hwyluso bywyd pobl anabl am ddim neu heb fynd i gostau mawr.

Byddwch ymarferol
I ddechrau, byddwch yn onest ac yn ymarferol. Os oes rhywun yn gofyn a yw’ch capel yn hwylus i gadair olwyn, peidiwch ag ateb ‘Ydi, siŵr’, a gobeithio’r gorau! Dw i’n defnyddio cadair olwyn oherwydd MS a fwy nag unwaith, dw i wedi cael sicrwydd bod capel yn hygyrch er nad yw. Efallai nad oes stepiau ond bod corneli tynn neu lwybrau cul neu ddim unman i eistedd yn y gadair. Ar ôl clywed y bydd llecyn hwylus i chi eistedd, mae’n siom canfod trefniant blodau neu daflunydd yn y man hwnnw a chithau’n gorfod eistedd yn yr ale gan flocio llwybr pawb!
Tŷ rhy fach
A thoiledau! Os oes gennych doiled hygyrch, gofalwch ei fod yn … hygyrch! Mae angen llwybr clir i’w gyrraedd, drws sy’n agor am allan neu’r ddwy ffordd, bariau codi ar y ddwy ochr wedi’u gosod ar bellter ac uchder call fel y gallwch eu cyrraedd a rhoi’ch pwysau arnynt. A pheidiwch â llenwi’r lle â bwcedi a mops ac ati – mae angen lle i fanŵfro! Os nad oes gennych doiled hygyrch pwrpasol, gallwch brynu ffrâm yn cynnwys sedd uwch a handlenni i afael ynddyn nhw i godi. Weithiau, os oes gennych step neu ddwy, gallwch brynu ramp cludadwy. Ond mae angen gofal mawr wrth ddewis a gosod y rhain.
Dweud o brofiad
Tipyn o ’mhrofiad i yw hynna ond mae anghenion pobl ag anableddau eraill yn hollol wahanol. Er enghraifft, mae effeithiau awtistiaeth yn amrywiol iawn ond dyma rai awgrymiadau a all fod o gymorth wrth groesawu pobl awtistig i addoli gyda chi.
- Mae’n help mawr i bobl awtistig wybod beth i’w ddisgwyl. Gall gwybodaeth ar wefan yr eglwys, gyda lluniau neu fideo, fod yn fuddiol yn enwedig cyn eu hymweliad cyntaf. Gall gweld trefn y gwasanaeth neu gael esboniad clir ar y dechrau fod o gymorth yn enwedig gyda threfn y cymun, er enghraifft.
- Weithiau, dydi pobl awtistig ddim yn hoffi i rywun gyffwrdd â nhw. Gall ysgwyd llaw neu gofleidio eu gwneud yn anghysurus iawn.
- Gall gorlwytho synhwyraidd (sensory overload) fod yn broblem i bobl awtistig. Rhowch rybudd clir os bwriedir defnyddio goleuadau sy’n llachar neu’n fflachio, neu sŵn uchel neu sydyn. Ceisiwch drefnu lle tawel lle gall person awtistig gymryd saib os oes gormod o olau, sŵn neu gyffro.
- O ganlyniad i orlwytho synhwyraidd gall person awtistig gael ‘melt-down’ ‘neu shut-down’. Mewn plant, caiff hyn ei gamddehongli’n aml fel tymer ddrwg neu sterics. Mae’n bwysig sylweddoli nad dyna sy’n digwydd a pheidio â barnu, ond rhoi cyfle iddynt ymdawelu.
- Gall sefyllfaoedd cymdeithasol fod yn flinedig i bobl awtistig. Cymerwch amser mewn lle tawel i eistedd a dod i nabod eich gilydd, ac i ddarganfod pa ddoniau yr hoffent eu rhannu ag eraill.
Seilir yr awgrymiadau uchod ar erthygl ar wefan yr elusen Through the Roof sy’n gweithio i alluogi pobl anabl i chwarae rhan lawn ym mywyd eu heglwysi a’r bywyd Cristnogol yn ehangach ac i ddefnyddio’u doniau er gogoniant Duw.
Sul Ymwybyddiaeth
Mae’r Sul yma, 27 Medi, yn Sul Ymwybyddiaeth o Anabledd ac mae gan Through the Roof amlinelliad o oedfa (yn Gymraeg) ac adnoddau eraill i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad pobl anabl i’r eglwys. Mae ar gael o https://throughtheroof.org neu trwy gysylltu â mi sian.roberts@btinternet.com. Ysgrifennwyd defnyddiau Sul Ymwybyddiaeth o Anabledd eleni gan Triona Brading, Cristion ifanc ag awtistiaeth ar y thema ‘Un Corff, Llawer o Aelodau’, yn seiliedig ar 1 Corinthiaid 12:12–27, sy’n cloi â’r geiriau: ‘Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod.’ Mae gan Through the Roof adnoddau eraill hefyd, rhai Cymraeg, i’w gweld ar eu gwefan. Gobeithio y bydd hyn o rywfaint o help i chi wrth ystyried y cwestiwn ‘A oes croeso i bobl anabl yn fy eglwys i?’
Siân Roberts
(Nid yw’r hyn a ysgrifennir yn yr erthyglau Barn Annibynnol o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr nac ychwaith y tîm golygyddol.)