Erthygl gan Siân Meinir ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 2026

Clustnodwyd 25 Tachwedd yn ddydd y Rhuban Gwyn. Os ewch chi ar wefan y mudiad, fe welwch y brawddegau hyn: ‘Nid yw trais yn erbyn menywod yn codi o ddim. Gall ddechrau gyda “Dim ond jôc o’dd e”, “Tynnu coes, dyna’i gyd”. Fe allwn, yn hytrach na chwerthin neu ddweud dim, ymateb drwy ddweud “Dere nawr, gad e” neu “Dyna ddigon”. Mae codi llais yn gwneud gwahaniaeth ac mae’n cymryd pawb i wneud hyn.’

Fe’ch gwahoddaf felly a’ch annog i barhau i ddarllen nawr. Mae hi mor bwysig ein bod ni Gristnogion yn trin a thrafod yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd real. Ydy, mae’r ystadegau yn ddychrynllyd, ond mae angen inni fod yn ymwybodol o’r sefyllfa. Serch hynny, os yw’r wybodaeth yn peri gofid, mae wastad glust i wrando ar gael a rhywun y gall eich cyfeirio at y man iawn i dderbyn cymorth. Os ydych mewn angen gallwch gysylltu 24/7 â llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’ – ffôn: 0808 8010800, neges: 07860 077333, e-bost: info@livefearfreehelpline.wales

Ystadegau

Yn ein gwlad ni, mae adroddiadau eleni’n dangos fod cyfraddau uchel o gam-drin domestig yn digwydd bob dydd ochr yn ochr â cham-drin rhywiol, stelcian (corfforol ac ar-lein). Bu 111 o lofruddiaethau domestig yng Nghymru a Lloegr yn 2025, 75 ohonynt yn fenywod a 36 yn ddynion. A dengys ymchwil gan Brifysgol Durham fod o leiaf 1 mewn 12 merch yn ddioddefwr ac oddeutu 90 o ferched sy’n cael eu lladd yn flynyddol yn adnabod y troseddwr. A rhwng 2013 a 2022, cododd y troseddu ar raddfa echrydus o 400%.

Yn ogystal, tristwch yw nodi fod trais nad yw’n gorfforol megis cam-drin emosiynol, economaidd (rheoli arian partner) a rheolaethol (rheoli rhyddid unigolyn) bellach yn fwy cyffredin. Mae’n debyg bod tagu a mygu person arall o fewn cyfathrach rhywiol wedi dod yn arfer ffasiynol ac o’r herwydd wedi’i benodi yn drosedd ers 2021, gydag ymron i 50,000 o achosion wedi’u cofrestru gyda’r heddlu y llynedd. Dywedir mai’r rheswm pennaf am hyn yw bod y diwydiant pornograffi wedi normaleiddio’r arfer. Mae adroddiadau hefyd, dim ond fis yn ôl, gan benaethiaid yr heddlu yn dynodi fod o leiaf 230,000 o blant a phobl ifanc yn profi camdriniaeth. 

Rhywiaeth

Fydda i fyth yn cael sioc wrth glywed merched yn trafod rhywiaeth – mae’n rhywbeth mae pob menyw siŵr o fod ar ryw adeg wedi’i brofi. Ond syndod yw deall ar ba raddfa y mae hyn yn parhau i ddigwydd. Dengys ymchwil gan Co-operatives UK fod 62% o fenywod yn ystyried rhywiaeth yn ddigwyddiad rheolaidd, tra bod 38% o ddynion yn eironig yn credu nad yw bellach yn broblem! Adroddwyd hefyd gan HR Grapevine fod 66% o fenywod wedi profi cael eu trin yn nawddoglyd gan gydweithiwr gwrywaidd, ac amlygwyd gan UN Women UK fod 97% o ferched rhwng 18 a 24 oed wedi profi aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

Felly, er mwyn cymryd o ddifrif yr ymrwymiad i ddileu trais yn erbyn menywod, rhaid mynd i’r afael â’r broblem drwy ganolbwyntio ar atal y peth rhag dechrau. Mae angen inni fuddsoddi’n fwy effeithiol mewn ymyriadau gwell ac addysgu am arferion da. Gwelwn fod normau rhywedd hen ffasiwn a chamsyniadaeth yn parhau i atal menywod rhag cael cyfiawnder. Mae’r newyddion ar hyn o bryd hefyd yn amlygu hylltra a thristwch y mater hwn.  

Iesu Grist

Gwyddom fod Iesu wedi torri rhagfarnau ei oes drwy amryfal ffyrdd. Gwelodd a chydnabod werth pawb. Croesawodd ferched fel disgyblion cyflawn iddo, ymddiriedodd ynddynt a rhoi lle allweddol iddynt yn ei weinidogaeth. Bu’n diwinydda gyda merched a rhannu gwirioneddau, eu cyfarch yn gadarnhaol a’u hamddiffyn yn gyhoeddus, ac ymddangos iddynt hwy’n benodol ar adegau allweddol. Doedd dim amdano, na’i weinidogaeth, oedd yn bychanu unrhyw un, nac yn dibrisio unrhyw berson.

Ni

Beth allwn ni ei wneud felly, hyd yn oed os nad ydym yn teimlo bod yr achos yn effeithio arnom ni? Bydd rhai efallai’n holi beth yw’r pwynt o wisgo rhuban? Credaf y gall arddangos rhywbeth allanol fod yn fodd i ddechrau sgwrs, ymledu’r ymwybyddiaeth, dangos cefnogaeth a dangos ein hymrwymiad i ddaioni. Ac os gwyddoch am unrhyw un sydd angen clust i wrando, sgwrs, neu gefnogaeth – cysylltwch â nhw. Yn aml, mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim.

 

Sian Meinir

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.