Gyda'u hysgolion wedi eu chwalu gan fomiau lluoedd arfog Israel, mae miloedd o blant bach Gaza yn cael addysg mewn pebyll.
Sôn am hynny, gyda lluniau o'r ysgolion ar sgrin fawr, wnaeth Siân ap Gwynfor yng nghwrdd chwarter Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin yng nghapel Pant–teg ger Felin–wen. Er iddynt golli anwyliaid, a dioddef o ddiffyg bwyd a thrawma seicolegol, mae'r ysgolion syml yma yn rhoi gobaith i'r plant. Cytunodd cynrychiolwyr yr eglwysi i bwyso ar Brif Weinidog Prydain a gwleidyddion eraill i fynnu cadoediad ar frys.
Sut clywodd Siân am y pebyll?
‘Bob dydd Sadwrn ers mis Hydref 2023, mae grŵp ohonom wedi dod at ein gilydd yn rheolaidd o dan faner Cyfeillion Palestina, Gorllewin Cymru i dystio ar y Clos Mawr yng Nghaerfyrddin. Grŵp ydynt sydd wedi bod yn ffrindiau a chefnogwyr i sefydliadau cymunedol ar y Lan Orllewinol o Balestina ers 10 mlynedd a mwy. Ers i ni symud i’r dref y llynedd rwy’ wedi ymuno â nhw yn eu tystiolaeth. Yn ystod un o’r Sadyrnau yna dyma ni’n cwrdd â meddyg, o Gaza yn wreiddiol, sydd yn briod â merch o ardal Caerfyrddin ac yn byw y tu fa’s i’r dref. Mae ei deulu yn dal i fyw yn Gaza. Maent ymhlith y ffoaduriaid sy’n byw mewn pebyll ac yn cael eu symud o hyd ac o hyd. Ofnaf na allaf enwi’r bobol ddewr hyn yn gyhoeddus gan fod perygl dial os daw'r awdurdodau yn Israel i wybod.’
Cefnogaeth o Gymru
‘Teulu’r meddyg, gyda'i gefnder yn flaenaf yn eu plith, sy’n cynnal ysgol mewn pabell i’r plant lle nad oes cyfleusterau addysgol ar gael oherwydd y bomio. Buom mewn cysylltiad tan yn ddiweddar gyda chydlynydd ysgol babell Sumud, ac wrth i’r adroddiad hwn fynd i’r wasg nid oes cysylltiad wedi bod ers diwrnodau. Ond fe wyddom y bydd y babell yn cael ei chodi, a’r plant yn cael eu galw at ei gilydd ble bynnag y byddant wedi ffoi iddo, a phryd bynnag y cânt ysbaid o’r erchylltra. Diolch i Dduw bod cynifer o garedigion yng Nghymru’n fodlon eu cefnogi.’