Dyma gasgliad o sesiynau defnyddiol i eglwysi sydd am ddefnyddio elfennau digidol yn eu haddoliad a'u tystiolaeth.
Y Parchg Beti-Wyn James sy'n arwain sesiwn ar ddefnyddio Powerpoint sy'n cynnwys arweiniad ymarferol ar
- sut i greu sleidiau,
- pa gynnwys i'w ddefnyddio,
- sut mae cyflwyno geiriau'r emynau a
- chynnwys fideo ar y sgrîn.
Isod fe allwch lawrlwytho enghraifft o gyflwyniad Powerpoint a'i addasu i'ch oedfa chi, gan newid geiriau'r emyn a phrif bwyntiau'r bregeth yn ôl y gofyn.
Y Parchg Dylan Rhys sy'n cyflwyno'r sesiwn isod am y cyfryngau cymdeithasol gan ofyn:
Sut y gallwn feithrin perthynas gyda'n cymuned ehangach drwy gyfrwng Facebook, Instagram ac ati?
Sut mae creu postiad gafaelgar sy'n denu pobl i ymateb a rhannu?